Ni fydd Rooney yn chwarae heno wedi iddo gael ei wahardd am chwarae budur
Ar drothwy’r gêm fawr heno rhwng Lloegr a Sweden yn Euro 2012 nid yw ffans Lloegr wedi bod yn ceisio curo’u gwrthwynebwyr trwy ymladd na thrwy yfed…ond trwy ganu.
Neithiwr yn Kiev ffurfiodd cefnogwyr Lloegr a Sweden ddwy res er mwyn bloeddio caneuon eu gwledydd. Roedd swyddogion diogelwch wrth law yn ardal y ffans ond ni wnaeth y chwarae droi’n chwerw.
Nid oes adroddiadau o drafferthion mawr cyn y gêm yn Kiev heno ac ni fyddai’r niferoedd yn fanteisiol i’r Saeson petasai trafferthion rhwng y cefnogwyr – mae amcangyfrif fod 20,000 o gefnogwyr Sweden yn Kiev a dim ond 5,000 o gefnogwyr Lloegr.
Nid yw Lloegr erioed wedi curo Sweden mewn gêm gystadleuol, ac mae buddugoliaeth yn hollbwysig i’r ddau dîm heno er mwyn gallu bod yn ffyddiog o symud ymlaen i rownd yr wyth olaf.