Harry Redknapp
Mae clwb Tottenham Hotspur wedi cadarnhau y bore yma bod cyfnod Harry Redknapp fel rheolwr wedi dod i ben.

Roedd gan Redknapp, 65, 12 mis ar ôl ar ei gytundeb ac mae’n debyg ei fod yn anhapus na chafodd gytundeb newydd o dair blynedd ychwanegol gyda’r clwb yn dilyn trafodaethau gyda Chadeirydd Tottenham Hotspur, Daniel Levy ddoe.

Mae’n debyg bod ei fethiant i sicrhau fod Spurs yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf yn un rheswm dros ei ymadawiad.

Mae na ddyfalu mai rheolwr Everton David Moyes yw un o’r ffefrynnau i fod yn rheolwr nesaf  Tottenham, ynghyd â Rafael Benitez, Roberto Martinez, Andre Villas-Boas a Jurgen Klinsmann.

‘‘Nid yw’n benderfyniad yr wyf fi na’r bwrdd wedi’i wneud yn ddifeddwl.  Nid yw’r penderfyniad yma yn amharu ar waith rhagorol Harry gyda’r clwb, a hoffwn ddiolch iddo am ei gyflawniadau a’i gyfraniad i’r clwb,’’ meddai Daniel Levy.

‘‘Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod gyda Tottenham, rwyf wedi cael pedair blynedd wych yma,’’ meddai Harry Redknapp.