Mae papur lleol Abertawe’n dweud y bydd clwb pêl-droed y ddinas wedi penodi rheolwr erbyn diwedd yr wythnos.

Mae hefyd yn dweud mai dau enw sydd ar y rhestr fer erbyn hyn – Ian Holloway, rheolwr Blackpool, a Michael Laudrup cyn chwaraewr rhyngwladol Denmarc.

Mae’r ddau’n adnabyddus am chwarae’r un math o gêm ymosodol a ddaeth â llwyddiant i’r Elyrch y llynedd.

Mae disgwyl i Gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, ddod yn ôl o wyliau yng Nghyprus heddiw – mae pwysau bellach arno i benderfynu, gyda’r cyfnod paratoi at y tymor nesa’ ar fin dechrau a’r farchnad brynu a gwerthu’n cyflymu.