Gareth Evans
Mae dau o’r pump codwr pwysau yng ngharfan Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn dod o Gymru.
Mae Gareth Evans o Gaergybi a Natasha Perdue o Abertawe wedi cael eu dewis i fynd i’r gemau yn Llundain ddiwedd fis nesaf. Mae gan garfan codi pwysau Prydain bump lle i gyd yn y Gemau – tri dyn a dwy ferch.
Bydd Gareth Evans a Natasha Perdue yn cystadlu yn yr adran 69kg ac mae’r ddau wedi symud o Gymru i Leeds er mwyn bod yn nes at ganolfan ymarfer codwyr pwysau Tîm GB.
Mae Natasha Perdue, sydd yn dod o deulu o godwyr pwysau gan fod ei thad a’i brawd wedi cystadlu ar y lefel uchaf, yn gweithio fel gyrrwr lori sbwriel yn Leeds ar hyn o bryd.
Natasha Perdue Llun: Steve Pope
“Mae’r ddau wedi aberthu llawer ac wedi symud i ffwrdd wrth eu teuluoedd yng Nghymru er mwyn ymarfer yn y ganolfan ymarfer genedlaethol, a oedd yn benderfyniad anodd” meddai Jonathan Roberts, Cadeirydd Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru.
“Mae cael dau athletwr o Gymru mewn carfan mor fach yn hwb i’r gamp yng Nghymru ac yn dangos i’r genhedlaeth nesaf fod modd codi i’r brig.”
Ar hyn o bryd mae 16 o athletwyr o Gymru wedi cael eu dewis i fynd i’r Gemau Olympaidd yn Llundain a fydd yn dechrau yn swyddogol ar 27 Gorffennaf.