Gary Speed
Gweriniaeth Iwerddon 3 – 0 Cymru
Roedd diffyg siâp a phwrpas i dîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw golli 3 – 0 oddi cartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng ngêm agoriadol y Cwpan Celtaidd.
Dyma oedd gêm gyntaf y rheolwr newydd, Gary Speed, ond doedd dim byd i awgrymu gwawr newydd i bêl-droed rhyngwladol Cymru.
Sgoriodd Darron Gibson y gôl gyntaf yn Stadiwm Aviva ar ôl awr, cyn i Damien Duff sgorio’r ail saith munud yn ddiweddarach.
Tarodd Keith Fahey y drydedd i’r rhwyd wyth munud cyn y chwiban olaf gyda chic rydd heibio i’r golwr Wayne Hennessey.
Roedd Iwerddon mewn rheolaeth o’r dechrau ac fe gafodd y Gwyddelod gyfle cynnar gyda chic rydd gan Glenn Whelan.
Cafodd ail gyfle ar ôl i James Collins benio’r ymdrech gyntaf yn ôl ond fe aeth y bêl i mewn i ganol yr eisteddle tri chwarter gwag.
Fe aeth 25 munud heibio cyn i Gymru fygwth y gôl ond fe aeth Hal Robson-Kanu i’r llawr dan bwysau gan John O’Shea ac fe benderfynodd y dyfarnwr Mark Courtney nad oedd yn haeddu cosb.
Cymerodd Rob Earnshaw gic rydd gyntaf Cymru ond methodd y chwaraewr o Nottingham Forest ei darged o bellter.
Roedd amddiffyn Cymru yn gwegian yn yr ail hanner ac roedd gôl Iwerddon bron a bod yn anochel.
Sgoriodd Darron Gibson gyda chic a hanner o 25 llath a doedd gan Wayne Hennessey ddim gobaith o’i arbed.
Collodd chwaraewyr Cymru unrhyw angerdd oedd yn weddill a daeth dwy gôl arall gan gau pen y mwdwl ar noswaith diflas i Gymru a Garry Speed.