Neil Taylor
Mae un o amddiffynwyr tîm pêl-droed Abertawe, Neil Taylor, yn anghytuno â’r holl sôn sydd wedi bod y bydd y tîm yn cael trafferth i gadw chwaraewyr allweddol ar ddiwedd y tymor hwn oherwydd eu llwyddiant yn yr Uwch Gynghrair.

Ar hyn o bryd, mae’r Elyrch yn y degfed safle yn y gynghrair ac yn edrych ymlaen at gêm bwysig yn erbyn Spurs y penwythnos hwn lle y byddan nhw’n wynebu’r Cymro disglair, Gareth Bale.

Mae’r si ar  led fod chwaraewyr fel Scott Sinclair, Joe Allen ac Ashley Williams ymysg y rhai sydd wedi bod yn denu diddordeb clybiau eraill ac mi geisiodd clwb Newcastle ddenu Neil Taylor ei hun ar ddechrau’r tymor.

Ond mae Taylor, sydd hefyd yn chwarae i Gymru, yn credu y bydd aelodau tîm Brendan Rogers am aros efo’i gilydd oherwydd eu bod nhw’n meddwl fod y clwb yn un “arbennig.”

“Rydym wedi ei wneud o gyda’n gilydd fel clwb pêl-droed ac mae pob chwaraewr a’r rheolwr yn sylweddoli clwb pêl-droed mor arbennig yw e, yn enwedig yn y ffordd yr ydym yn chwarae,” meddai.

“Dwi ddim yn meddwl y byddai un o’r chwaraewyr yn awyddus i gyfnewid hynny.

“Mae’n glwb pêl-droed sy’n datblygu ac os ydyn ni’n diweddu’r tymor yn y deg uchaf, does dim llawer o lefydd y basach am fynd iddo sy’n well na fan hyn.”