Geoff Kellaway
Dyma’r enwau a greodd argraff ar griw Sgorio dros y penwythnos.

Golwr

Paul Harrison ( Y Seintiau Newydd) – Ar ôl ei gampau yn erbyn Bangor yr wythnos diwethaf, llwyddodd Harrison i gadw llechen lân yn erbyn Castell-nedd – y tro cyntaf mewn 10 gêm i’r Eryrod fethu sgorio

Amddiffynwyr

Simon Spender (Y Seintiau) – Roedd Spender yn allweddol wrth i’w dîm gadw’r llechen lân hollbwysig ar Y Gnoll ac roedd yn ddraenen ymosodol i dîm Kristian O’Leary hefyd

Cortez Belle (Port Talbot) – Enw annisgwyl yn yr amddiffyn, efallai, ond dyna ble mae Belle wedi bod yn chwarae’n ddiweddar i’r Gwŷr Dur. Ond fe brofodd ei allu ymosodol hefyd gan rwydo un a chreu ail i Bort Talbot yn erbyn Airbus

Danny Williams (Y Bala) – Er gwaethaf sgorio i’w rwyd ei hun, roedd Williams yn gawr yn yr amddiffyn i’r Bala gan ddefnyddio ei brofiad eang i drefnu ei gyd amddiffynwyr a rhwystro ‘Esgidiau Aur’ Rhys Griffiths rhag rhwydo.

Ben Collins (Y Bala) – Wedi chwarae ei ran yn llwyddiant Y Bala ers ymuno o Gei Connah ym mis Ionawr. Dyw e ddim yn creu penawdau ond yn mynd o gwmpas ei waith yn ddygn ac yn effeithlon.

Canol Cae

Paul Fowler (Caerfyrddin) – Sgoriodd ddwy gôl hyfryd wrth i Gaerfyrddin sicrhau tri phwynt hynod o werthfawr yn y frwydr i osgoi cwympo o Uwch Gynghrair Cymru

Luke Boundford (Y Drenewydd) – Er bod ei dîm wedi gadael Parc Waun Dew, Caerfyrddin yn waglaw, rhoddodd obaith i’r Drenewydd gyda dwy gôl yn erbyn Caerfyrddin.

Mark Jones (Y Bala) – Roedd Jones yn arian byw yng nghanol cae Y Bala wrth i fechgyn Colin Caton synnu Llanelli ar eu tomen eu hunain a chamu yn agosach at y pedwerydd safle.

Sion Edwards (Bangor) – Bachodd Edwards ddwy gôl i’r Dinasyddion wrth iddyn nhw daro yn ôl yn y modd gorau posib â buddugoliaeth swmpus yn erbyn Prestatyn ar ôl dwy golled gartref yn erbyn Y Seintiau a Chastell-nedd

Ymosodwyr

Ian Sheridan (Y Bala) – Manteisiodd i’r eithaf ar gamgymeriad yn amddiffyn Llanelli i roi’r Bala ar y blaen ar Barc Stebonheath ac roedd yn ddraenen yn ystlys y Cochion trwy gydol y prynhawn.

Geoff Kellaway (Aberystwyth) – Er na chafodd gôl i Aber – fe gafodd ei gynnig ei gwrthod gan y dyfarnwr – roedd Kellaway yn hynod o weithgar gan wneud sawl rhediad grymus o un pen i’r cae i’r llall i fois Tomi Morgan

Cofiwch fod modd gwylio uchafbwyntiau holl gemau’r Uwch Gynghrair ar raglen Sgorio heno (nos Fawrth) am 18:30 ar S4C, gydag ailddarllediad am 23:35.