Richie Rees
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bydd y mewnwr Richie Rees yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.
Ymunodd Rees o’r Gwyddelod yn Llundain yn 2007, gan chwarae 94 o gemau a sgorio 5 cais i’r Gleision.
Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ennill 9 o gapiau i Gymru – y cyntaf yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2010.
Cyfnod o newid
Yn ôl y chwaraewr, roedd yr amser yn iawn i adael y rhanbarth.
“Mae’r Gleision mewn cyfnod o newid, ac rwy’n credu bod yr amser yn iawn i mi ymgymryd â sialens newydd.”
“Mae grŵp gwych o fechgyn gyda’r Gleision ac rwy’n mwynhau hyfforddi gyda nhw bob dydd.”
“Rwy am ddiolch yn fawr iawn i’r cefnogwyr sydd wedi bod yn grêt gyda mi ers ymuno, ac i Dai Young am ei gyfraniad i’m gyrfa. Rwy’n edrych ymlaen at gael gorffen y tymor yn dda gyda’r Gleision yn y gynghrair a’r Cwpan Heineken.”
“Rwy’n ystyried nifer o opsiynau ar gyfer y tymor nesaf ar hyn o bryd ac fe fyddai’n cadarnhau fy nghyrchfan yn yr wythnosau nesaf.“
Uchafbwyntiau
Yn ystod ei gyfnod gyda’r rhanbarth, fe lwyddodd Rees i helpu’r Gleision i fuddugoliaeth yn y gwpan Eingl-Gymreig a chwpan Her Amlin.
“Rwy wedi cael amser ffantastig gyda’r Gleision ers ymuno yn 2010.”
“Mae nifer o uchafbwyntiau wedi bod, yn arbennig ennill cwpanau’r EDF ac Amlin, a’r gêm gynderfynol fythgofiadwy yn erbyn Caerlŷr yn y Cwpan Heineken.”