Aberystwyth 1-1 Lido Afan

Cyfartal oedd hi rhwng Aberystwyth a Lido Afan yng Nghoedlan y Parc nos Wener.

Daeth yr unig ddwy gôl yn y pum munud cyntaf. Rhwydodd Daniel Thomas i’r ymwelwyr wedi dim ond dau funud cyn i Sean Thornton unioni’r sgôr dri munud yn ddiweddarach gydag ergyd wedi ei gwyro.

Aberystwyth a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn yr ail hanner ac roeddynt yn meddwl eu bod wedi ennill y gêm pan ddaeth Thornton o hyd i gefn y rhwyd am yr eildro ddeuddeg munud o’r diwedd, ond gwrthod caniatáu’r gôl a wnaeth y dyfarnwr, Wayne Stephens, wedi gweld lluman y dyfarnwr cynorthwyol yn codi.

Rhaid oedd hi Aber fodloni ar bwynt yn unig felly ac maent o ganlyniad yn disgyn i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl. Mae Lido ar y llaw arall yn aros yn wythfed ond yn cau’r bwlch ar Airbus yn y seithfed safle.

Prestatyn 0-4 Bangor

Parhau a wnaeth ail hanner siomedig Prestatyn i’r tymor wrth iddynt gael cweir gan Fangor ar Erddi Bastion nos Wener.

Aeth Bangor ar y blaen wedi 19 munud pan sgoriodd Chris Jones yn syth o gig gornel ac roedd hi’n ddwy ddau funud cyn yr egwyl pan sgoriodd Sion Edwards ail y Dinasyddion. Roedd hi’n chwip o foli gan yr asgellwr yn dilyn cic hir Lee Idzi a doedd gan John Hill-Dunt yn y gôl i Brestatyn ddim gobaith.

Ychwanegodd yr ymwelwyr ddwy arall yn yr ail hanner, y gyntaf gan Les Davies wedi 64 munud ac yna Edwards gyda’i ail o ongl dynn bum munud cyn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw Bangor yn yr ail safle ddau bwynt y tu ôl i’r Seintiau ar y brig ond mae Prestatyn yn aros yn chweched safle wrth i’w rhediad siomedig barhau.

Caerfyrddin 3-2 Y Drenewydd

Cafwyd gêm y penwythnos ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn wrth i Gaeryfrddin drechu’r Drenewydd yn y frwydr rhwng y ddau dîm ar y gwaelod.

Rhoddodd Paul Fowler yr Hen Aur ar y blaen wedi dim ond 11 munud ond roedd y Drenewydd yn gyfartal toc wedi hanner awr diolch i gôl Luke Boundford.

Felly yr arhosodd hi hyd at yr egwyl ond rhoddodd Boundford yr ymwelwyr ar y blaen 18 munud o’r diwedd gyda’i ail o’r gêm.

Ond wnaeth Caerfyrddin ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn gyfartal dri munud yn ddiweddarach diolch i gôl Dan MacDonald. Yna, bedwar munud o’r diwedd, sgoriodd Fowler ei ail o’r gêm i gipio’r triphwynt i Gaerfyrddin – gôl sydd mwy na thebyg yn golygu y bydd y Drenewydd yn disgyn o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerfyrddin dros Aberystwyth i’r degfed safle tra mae’r Drenewydd yn aros ar waelod y gynghrair saith pwynt y tu ôl i Gaerfyrddin gyda dim ond pum gêm yn weddill.

Llanelli 1-2 Bala

Roedd dwy gôl hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Bala yn erbyn Llanelli ar Stebonheath brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Ian Sheridan ei ddeuddegfed gôl gynghrair o’r tymor hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf i roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Ac yna dyblwyd y fantais ym munud olaf yr hanner wrth i Mark Connolly rwydo’r ail.

Fe wnaeth un o chwaraewyr y Bala sgorio yn yr ail hanner hefyd ond i’w gôl ei hun y rhwydodd Danny Williams toc cyn yr awr i hanneru mantais ei dîm.

Rhoddodd hynny obaith i Lanelli ond daliodd tîm Colin Caton eu gafael ar y tri phwynt.

Mae Llanelli yn aros yn bedwerydd a’r Bala’n bumed er gwaethaf y canlyniad ond dim ond tri phwynt sydd bellach yn gwahanu’r ddau dîm gyda’r gêm gyfatebol ar Faes Tegid eto i ddod.

Castell Nedd 1-0 Y Seintiau Newydd

Cymerodd Y Seintiau Newydd gam mawr tuag at ennill teitl Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Castell Nedd ar y Gnoll. Roedd gôl hwyr yr eilydd, Scott Ruscoe, yn ddigon i drechu deg dyn Castell Nedd ac agor chwe phwnyt o fwlch rhwng y ddau dîm.

Bu bron i Luke bowen roi’r Eryrod ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond er i’w gynnig guro gôl-geidwad y Seintiau, Paul Harrison, fe lwyddodd yr amddiffynnwr, Steve Evans, i’w chlirio oddi ar y llinell.

Cafodd Alex Darlinton gyfle i’r Seintiau yn y pen arall ond llwyddodd Lee Kendall i arbed wrth iddi aros yn ddi sgôr ar yr egwyl.

Bu rhaid i Gastell Nedd chwarae rhan helaeth o’r ail hanner gyda deg dyn wedi i Chris Jones dderbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch naw munud yn unig wedi’r egwyl.

A chafodd tîm Kristian O’Leary eu cosbi wrth i’r Seintiau reoli’r hanner awr olaf. A daeth y gôl holl bwysig saith munud o’r diwedd. Gwyrodd ergyd Darlinton i lwybr Ruscoe ac anelodd yntau’r bêl heibio i Kendall i ennill y gêm i’r Seintiau.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Seintiau ar y brig ddau bwynt yn glir o Fangor yn yr ail safle. Mae Castell Nedd ar y llaw arall yn disgyn i’r trydydd safle, a gyda dim ond pedair gêm ar ôl mae hi’n ymddangos fod yr Eryrod allan o’r ras am y teitl.

Port Talbot 2-1 Airbus

Brwydrodd Port Talbot yn  ôl gyda dwy gôl hwyr i gipio buddugoliaeth yn erbyn Airbus yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sul.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe roddodd Mark Cadwallader yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic o’r smotyn dri munud yn unig wedi’r egwyl.

Ond roedd Port Talbot yn gyfartal wedi 72 munud diolch i Cortez Belle, ergyd nerthol y blaenwr yn curo Niki Lee-Bulmer yn y gôl i Airbus.

Bu rhaid i Lee-Bulmer adael y cae yn fuan wedyn gydag anaf drwg i’w ysgwydd a gan nad oedd gan Airbus gôl-gedwad ar y fainc bu rhaid i’r amddiffynnwr, Danny Grannon fynd rhwng y pyst.

Ond roedd hi’n ymddangos fod Airbus am ddal eu gafael ar y pwynt serch hynny tan i’r eilydd, Chris Hartland, guro Grannon wedi saith munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn golygu fod y ras am y seithfed safle holl bwysig yn cynhesu. Dim ond pum pwynt sydd yn gwahanu Airbus, Lido Afan a Phort Talbot yn y seithfed, wythfed a nawfed safle yn awr gyda phum gêm ar ôl.