Allen - Sgoriwr y drydedd
Fulham 0–3 Abertawe

Cafodd Abertawe fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Fulham yn Craven Cottage brynhawn Sadwrn. Mae’r Elyrch bellach yn yr wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair diolch i ddwy gôl gan Gylfi Sigurdsson ac un gan Joe Allen yn Llundain.

Daeth gôl gyntaf Sigurdsson ddeg munud cyn yr egwyl pan blymiodd i benio’r bêl heibio i Mark Schwarzer yn y gôl i Fulham yn dilyn gwaith da gan Scott Sinclair.

Roedd hi’n ddwy i Abertawe a dwy i Sigurdsson hanner ffordd trwy’r ail hanner wedi i’r chwaraewr canol cae ergydio’n gywir yn dilyn rhediad a phas dda Wayne Routledge.

Ac roedd y tri phwynt yn sâff chwarter awr o’r diwedd yn dilyn gôl Allen. A gôl dda oedd hi, ergyd o 18 llath gan y Cymro ifanc.

Dim ond dwy gêm oedd yn yr Uwch Gynghrair heddiw a manteisiodd Abertawe ar hynny trwy neidio dros Sunderland ac Everton i’r wythfed safle.