Morrell - Dwy gôl i'r rheolwr
Ebbsfleet 0–5 Wrecsam

Symudodd Wrecsam yn nes at Fleetwood ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Ebbsfleet ar Ffordd Stonebridge nos Fawrth. Rhwydodd y chwaraewr reolwr, Andy Morrell, ddwywaith wrth i’r Dreigiau sgorio pump.

Rhoddodd Mathias Pogba y tîm o ogledd Cymru ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan beniodd groesiad Jamie Tolley heibio i Preston Edwards yn y gôl i Ebbsfleet.

Ac roedd hi’n ddwy funud cyn yr egwyl wrth i Morrell rwydo ei gyntaf. Daeth Jake Speight o hyd i’w reolwr yn y cwrt cosbi a gwnaeth yntau’r gweddill.

Roedd y tri phwynt yn sâff wedi 12 munud o’r ail hanner pan sgoriodd Steven Leslie drydedd y Dreigiau. Derbyniodd y bêl gan Pogba ar ochr y cwrt cosbi cyn ergydio i gornel isaf y rhwyd.

Peniodd Morrell ei ail ef a phedwaredd ei dîm hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i Speight roi’r eisin ar y gacen ddeuddeg munud o’r diwedd. Cafodd yr ymosodwr ei lorio yn y cwrt cosbi gan Tom Phipp cyn codi ar ei draed i sgorio’r gic o’r smotyn.

Mae buddugoliaeth Wrecsam ynghŷd â gêm gyfartal Fleetwood oddi cartref yn Mansfield yn golygu fod y bwlch rhwng y ddau dîm ar y brig yn cau i dri phwynt. Felly os all Wrecsam guro’i gêm wrth gefn fe allant godi yn ôl i frig tabl Uwch Gynghrair y Blue Square.