Caerdydd 0–3 Hull

Colli fu hanes Caerdydd yn erbyn Hull yn y Bencampwriaeth nos Fawrth. Roedd y tîm cartref ar ei hôl i o gôl i ddim ar yr egwyl yn Stadiwm y Ddinas wedi i Kevin McNaughton sgorio i’w rwyd ei hun yn gynnar. A gwaethygodd pethau yn yr ail hanner wrth i James Chester ac Aaron McLean ychwanegu ail a thrydedd i’r ymwelwyr.

Dim ond chwe munud a gymerodd hi i Hull fynd ar y blaen wrth i McNaughton benio cic gornel Andy Dawson heibio i’w gôl-geidwad ei hunan, David Marshall.

Roedd Caerdydd yn meddwl eu bod wedi unioni pethau pan beniodd Ben Turner gic gornel Peter Wittingham i gefn y rhwyd bum munud cyn diwedd yr hanner ond cafodd y gôl ei gwrthod gan y dyfarnwr.

Y tîm cartref ar ei hôl hi ar yr egwyl felly ac aeth pethau o ddrwg i waeth wedi ychydig dros funud o’r ail hanner pan sgoriodd Hull yr ail, sodliad slei Joshua King yn dod o hyd i Chester ar ochr y cwrt chwech ac yntau yn cael blaen troed i’r bêl cyn i Marshall ei chyrraedd.

Ac roedd y tri phwynt yn sâff i bob pwrpas wyth munud yn ddiweddarach wedi i McLean sgorio’r drydedd. Derbyniodd bas Robert Koren cyn curo Marshall ar yr ail gynnig er ei bod hi’n ymddangos ei fod yn camsefyll.

Kenny Miller a ddaeth agosaf i Gaerdydd ond tarodd ei ergyd ef y postyn ar yr awr.

Mae’r canlyniad yn golygu fod yr Adar Gleision yn ildio’u lle yn y safleoedd ail gyfle i Hull. Dim ond gwahaniaeth goliau sy’n gwahanu’r ddau dîm ond mae Caerdydd wedi chwarae un gêm yn fwy.