Bristol City 1-2 Caerdydd

Cipiodd Caerdydd y tri phwynt yn erbyn Bristol City yn Ashton gate nos Sadwrn er mai chwaraewyr y tîm cartref a sgoriodd bob un o’r tair gôl. 2-1 oedd y sgôr terfynol yn y gêm yn y Bencampwriaeth wrth i’r tîm o Fryste sgorio i’w rhwyd eu hunain ddwywaith i roi’r fuddugoliaeth i’r Cymry.

Ond creodd Caerdydd ddigon o gyfleoedd eu hunain ac roedd yn ganlyniad teg yn y diwedd.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd yn y chwarter awr agoriadol a bu rhaid i’r ddau gôl-geidwad, David Marshall i Gaerdydd a David James i Bristol City, fod ar eu gorau.

Ond er gwaethaf y cyfleoedd bu rhaid aros tan yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner am y gôl gyntaf. Daeth honno pan wyrodd Stephen McManus groesiad Joe Mason i’w rwyd ei hun.

Roedd y tîm cartref yn gyfartal wedi dim ond saith munud o’r ail hanner pan rwydodd Jon Stead yn dilyn croesiad Richard Foster.

Fe wnaeth Marshall i yn dda i gadw’r sgôr yn gyfartal trwy arbed ymdrechion Sean Davies a Brett Pitman. Ac yn y pen arall fe fethodd Kenny Miller gyfle i roi’r Adar Gleision yn ôl ar y blaen.

Ond fe lwyddodd Caerdydd i gipio’r tri phwynt gyda thri munud o’r 90 ar ôl. Gôl i’w rwyd ei hun gan yr eilydd, Kalifa Cisse, y tro hwn ond ymdrech Mason a oedd yn gyfrifol unwaith eto.

Canlyniad da iawn i dîm Malcky Macay felly yn dilyn rhediad siomedig yn y Bencampwriaeth. Ac mae’r fuddugoliaeth yn eu codi yn ôl i’r safleoedd ail gyfle wedi i Blackpool a Birmingham fethu ag ennill.