Bangor 1–3 Y Seintiau Newydd

Cododd y Seintiau Newydd i frig Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn Bangor o flaen camerâu Sgorio nos Sadwrn. Gêm gyffrous iawn a gêm debyg iawn i’r wythnos diwethaf oedd hi yn Nantporth wrth i’r ymwelwyr sgorio tair yn yr hanner cyntaf cyn i Fangor dynnu un yn ôl yn gynnar yn yr ail.

Ond yn debyg iawn i’r gêm yn erbyn Castell Nedd, methu ag ychwanegu at yr un gôl honno a wnaeth Bangor wrth iddynt golli am yr eilwaith mewn wythnos ac ildio eu lle ar frig y gynghrair.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Seintiau ar dân ac roedd gôl Bangor dan warchae yn y ddau funud cyntaf.

Gwnaeth Lee Idzi yn dda i arbed ergyd nerthol Simon Spender o ongl dynn ond daeth y bêl i lwybr Greg Draper. Roedd ei ergyd ef ar y cynnig cyntaf yn un dda ond llwyddodd Peter Hoy i’w phenio oddi ar y llinell.

Cafodd Steve Evans gyfle da gyda’i ben o’r gic gornel ganlynol ond gwnaeth Idzi yn dda i arbed unwaith eto.

Dave Morley oedd yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn i Fangor yn absenoldeb Jamie Brewerton a pheniad gwael ganddo ef a roddodd gyfle da arall i Draper wedi saith munud. Ond daeth Idzi i’r adwy unwaith eto wrth iddi aros yn ddi sgôr.

Arhosodd hi felly am 18 munud cyn i Draper rwydo’r gôl agoriadol. Roedd pas Evans yn un dda a thorodd Draper y trap cam sefyll cyn mynd heibio Idzi i sgorio’i ddeunawfed gôl o’r tymor.

Y Seintiau oedd y tîm gorau o dipyn yn y 25 munud cyntaf ond fe ddaeth Bangor yn ôl i’r gêm wedi hynny. Cawsant gyfle da toc cyn yr hanner awr ond ergydiodd Les Davies yn hytrach na chroesi i Alan Bull.

Gwnaeth Idzi arbediad da iawn yn y pen arall i atal ergyd Tom Roberts o 25 llath cyn i Davies fethu cyfle da yn y pen arall. Daeth Bull o hyd iddo gyda chroesiad hir cywir ond ergydiodd y blaenwr yn syth at Paul Harrisson yn y gôl i’r Seintiau.

Ond fel yr oedd Bangor yn gwella fe sgoriodd y Seintiau ddwy mewn tri munud ychydig funudau cyn yr egwyl.

Daeth y gyntaf wedi i Aeron Edwards dorri’r trap camsefyll i dderbyn pas hir Phil Baker o’r cefn. Roedd Edwards yn gryfach na Morley a chododd y bêl yn gelfydd dros Idzi i ddyblu mantais ei dîm.

Ac aeth prynhawn Morley o ddrwg i waeth wrth iddo sgorio i’w rwyd ei hun ar gyfer trydedd y Seintiau. Roedd llinell amddiffynnol Bangor ar chwâl unwaith eto a dylai Draper fod wedi sgorio ei hun ond fe aeth y bêl i gefn y rhwyd yn y diwedd gydag ychydig o help gan Morley.

Methodd Draper gyfle i’w gwneud hi’n bedair yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner ond arbedodd Idzi unwaith eto i roi llygedyn o obaith i’r Dinasyddion yn yr ail hanner.

Ail Hanner

Ac roedd y llygedyn hwnnw yn fwy wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod wedi i Neil Thomas sgorio i’r tîm cartref. Gwnaeth Chris Jones yn dda ar y dde cyn i’r bêl ddisgyn i lwybr Thomas ac ergydiodd yntau’n nerthol i do’r rhwyd, 3-1 gyda bron i hanner y gêm ar ôl.

Cafodd Bangor gyfleoedd da i ychwanegu ail yn fuan wedyn hefyd ond tarodd Hoy y postyn yn dilyn pas wych Davies, ac ergydiodd Davies ei hunan yn syth at Harrison ar ôl creu cyfle iddo ef ei hun.

Roedd y gêm i gyd bron iawn yn cael ei chwarae yn hanner y Seintiau yn awr ond fe greodd hynny gyfle i Alex Darlington wrth i’r ymwelwyr wrthymosod toc wedi’r awr, ond arbedodd Idzi unwaith eto.

Daeth llai a llai o gyfleoedd wrth i Fangor flino at ddiwedd y gêm. Wedi dweud hynny, fe gafodd Chris Jones beniad rhydd gyda naw munud i fynd ond methodd a tharo’r targed pan ddylai fod wedi gwneud yn well.

Ac er na chynigodd y Seintiau fawr o fygythiad ymosodol yn yr ail 45 munud fe wnaethant hen ddigon i haeddu’r tri phwynt.

Ymateb

Mae’r canlyniad yn codi’r Seintiau i frig yr Uwch Gynghrair, ddau bwynt o flaen Bangor. A dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn gwahanu Bangor a Chastell Nedd yn y trydydd safle bellach wedi i’r Eryrod guro Llanelli nos Wener.

Y Seintiau yw’r ffefrynnau i gipio’r teitl yn awr ond nid yw eu cyfarwyddwr pêl droed, Craig Harrison, yn cymryd dim byd yn ganiataol eto:

“Mae yna bum gêm ar ôl a’r cwbl allwn ni ei wneud yw ennill gymaint ag y gallwn. Os enillwn ni bob un fe fyddwn ni ar y brig ond os na wnawn ni fe wnawn ni barhau i frwydro. Mae yna dri thîm yn y ras o hyd a dyw hi ddim drosodd eto.”