Casnewydd 3–1 Wealdstone
Mae gan Gasnewydd un droed yn Wembley ar ôl ennill cymal cyntaf rownd gynderfynol Tlws yr FA yn erbyn Wealdstone ar Barc Sbytu brynhawn Sadwrn. Sgoriodd Elliott Buchanan a Nat Jarvis i roi mantais i’r Cymry ar hanner amser ac ychwanegodd Darryl Knights drydedd wedi i Richard Jolly sgorio un i’r ymwelwyr.
Dim ond pum munud a oedd wedi’u chwarae pan rwydodd Buchanan y gyntaf yn dilyn camgymeriad gan gôl-geidwad Wealdstone, Jonathan North.
Yna, sgoriodd Jarvis yr ail yn erbyn llif y chwarae wrth iddo dderbyn y bêl wedi i beniad Gary Warren daro’n erbyn y trawst.
Cafodd Buchanan a Jarvis ill dau gyfleoedd i ychwanegu trydedd ond gwnaeth North yn dda i’w hatal. Ychydig o waith a gafodd Glyn Thompson yn y pen arall ond gwnaeth yn dda i arbed pan gafodd Kurtney Brooks gyfle prin i’r ymwelwyr.
Roedd Casnewydd yn ddigon hapus ar yr egwyl ond Wealdstone oedd yn gwenu yn gynar yn yr ail hanner wedi i Jolly hanneru mantais y Cymry gydag ergyd nerthol.
Byddai 2-1 oddi cartref wedi bod yn ganlyniad da i’r ymwelwyr ond sicrhaodd Casnewydd mai nhw fydd y ffefrynnau cyn yr ail gymal gyda thrydedd gôl. Daeth David Pipe o hyd i Knights ac anelodd yntau’r bêl heibio North i adfer y ddwy gôl o fantais.
Bydd yr ail gymal yn Stadiwm St Georges wythnos i heddiw ac mae disgwyl i bron i 700 o gefnogwyr Casnewydd deithio i Lundain ar gyfer y gêm. A’r gobaith yw y bydd taith arall i Lundain yn dilyn hynny, i Wembley ar gyfer y rownd derfynol.