Wright - Gôl a cherdyn coch i'r blaenwr
Wrecsam 2–0 Barrow

Mae Wrecsam yn parhau yn y ras i ennill Uwch Gynghrair y Blue Square eleni ar ôl curo Barrow ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn. Roedd gôl ym mhob hanner, y naill gan Danny Wright a’r llall gan Jake Speight, yn ddigon i sicrhau tri phwynt arall i’r Dreigiau yn y Gyngres.

Wrecsam oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf a daeth Jamie Tolley yn agos wedi dim ond naw munud ond cafodd ei atal gan Shaun Pearson yn y gôl i Barrow.

Llwyddodd Pearson i arbed ergyd Wright wedi 28 munud hefyd ond ymosodwr Wrecsam a enillodd y frwydr rhwng y ddau chwe munud yn ddiweddarach. Daeth Mathias Pogba o hyd i Wright yn y cwrt chwech a pheniodd yntau heibio’r gôl-geidwad i roi’r Dreigiau ar y blaen.

Cafodd Speight gyfle i ddyblu mantais y tîm cartref bum munud yn ddiweddarach ond llwyddodd Pearson i arbed unwaith eto. Ac er mai hanner digon distaw a gafodd Joslain Mayebi yn y pen arall bu rhaid i’r gôl-geidwad fod yn effro i atal Richie Baker yn yr amser a ganiateir am anafiadau.

Doedd dim rhaid i Wrecsam aros yn hir wedi’r egwyl am yr ail gôl wrth i Speight rwydo wedi 52 munud. Derbyniodd y bêl gan Neil Ashton yn y cwrt chwech cyn ei hanelu hi’n galed ac yn gywir i’r gornel isaf.

2-0 i’r Dreigiau a’r tri phwynt yn sâff ond tynnwyd ychydig o’r sglein oddi ar y canlyniad wrth i Wright dderbyn cerdyn coch ugain munud o’r diwedd am ddigwyddiad oddi ar y bêl. A gorffennodd y ddau dîm gyda deg dyn wedi i Baker dderbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch yn eiliadau olaf y gêm.

Mae Wrecsam yn aros yn yr ail safle yn y Gyngres er gwaethaf y fuddugoliaeth ac mae’r bwlch rhyngddynt a Fleetwood ar y brig yn aros yn bum pwynt wedi iddyn nhw guro Kidderminster nos Wener.