Ddydd Sul fe fydd moneybags Manchester City yn dod draw i’r Liberty i herio’r Elyrch.
Mi fydd criw Mancini’n wynebu talcen caled – dim ond dau dîm sy’ wedi cipio’r triphwynt oddi cartre’ yn erbyn Abertawe hyd yma’r tymor hwn.
Mae Abertawe 33 o bwyntiau y tu ôl i Manchester City, ond fwy neu lai yn sicr o’u lle yn yr Uwch Gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Bydd yr Elyrch yn mynd mewn i’r gêm mewn hwyliau da ar ôl cipio buddugoliaeth yn erbyn Wigan y penwythnos diwethaf.
Bydd yr ymosodwr Gylfi Sigurdsson, sydd ar fenthygiad o Hoffenheim, yn gobeithio efelychu ei berfformiad yn erbyn Wigan pan sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth dros Wigan.
Bydd Nathan Dyer yn colli’r gêm oherwydd gwaharddiad am dacl uchel yn erbyn chwaraewr canol cae Wigan, Jordi Gomez.