Y Seintiau Newydd 1–0 Castell Nedd

Mae’r Seintiau Newydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar ôl curo Castell Nedd yn Neuadd y Parc o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Sgoriodd Greg Draper unig gôl y gêm ddeg munud cyn yr egwyl i sicrhau lle’r Seintiau ym mhedwar olaf y gystadleuaeth.

Hanner Cyntaf

Cafodd Draper hanner cyfle i agor y sgorio wedi dim ond pedwar munud pan ddisgynnodd y bêl iddo ar ochr y cwrt cosbi ond gwnaeth Lee Kendal yn y gôl i Gastell Nedd arbediad gwych yn isel i’w chwith.

Yn y pen arall, bu rhaid i Paul Harrison fod ar flaenau’i draed i arbed cic rydd Lee Trundle wedi 11 munud ar ôl iddi wyro oddi ar y mur amddiffynnol.

Cafodd Trundle ei atal gan Harrison drachefn wedi chwarter awr o chwarae pan wnaeth y gôl-geidwad yn dda i arbed ergyd nerthol yr ymosodwr o ochr chwith y cwrt cosbi.

Ychydig iawn o gyfleoedd a greodd y ddau dîm wedi hynny tan i Draper sgorio’r gôl agoriadol wedi 36 munud. Daeth croesiad dwfn Ryan Fraughan o’r dde o hyd i Steve Evans wrth y postyn pellaf a gwnaeth yntau’n dda i benio’r bêl yn ôl ar draws y cwrt chwech i roi’r gôl ar blât i Draper. Hon oedd ugeinfed gôl y blaenwr o’r tymor.

Cafodd hanner cyfle i ychwanegu un arall bedwar munud yn ddiweddarach ond methodd daro’r targed â’i beniad y tro hwn yn dilyn croesiad da arall gan Fraughan.

Yn y pen arall, cafodd Trundle gyfle da i unioni ond gwnaeth un o amddiffynnwyr y Seintiau yn dda i atal ei ergyd o 12 llath.

Ail Hanner

Doedd dim llawer o gyfleoedd da yn yr hanner cyntaf ond roedd llai fyth wedi’r egwyl. Wedi dweud hynny efallai y dylai Castell Nedd fod wedi cael cic o’r smotyn wedi 53 munud pan gafodd yr eilydd, Kerry Morgan, ei lorio yn y cwrt cosbi ond anwybyddu’r digwyddiad a wnaeth y dyfarnwr.

Ar wahân i hynny ychydig iawn o gyffro a gafwyd yn yr ail hanner a’r unig dro arall y daeth Castell Nedd yn agos at fygwth gôl y Seintiau oedd chwarter awr o’r diwedd. Gwnaeth Chris Jones waith da ar y chwith cyn dod yn ôl i’r canol i ergydio gyda’i droed dde ond arbedodd Harrison yn dda.

Roedd yr un gôl yn ddigon i’r Seintiau felly wrth iddynt barhau yn y ras i ennill tair cystadleuaeth y tymor hwn.