Jarvis - Sgoriwr y gôl fuddugol (llun o wefan CPD Caerdydd)
Northwich 2–3 Casnewydd

Mae Casnewydd yn rownd gynderfynol Tlws yr FA ar ôl curo Northwich yn Stadiwm Victoria brynhawn Sadwrn. Roedd y tîm o Gymru ddwy gôl ar ei hôl hi toc wedi’r egwyl ond brwydrodd tîm Justin Edinburgh yn ôl i hawlio lle yn y pedwar olaf.

Rhoddodd Ian Kearney y tîm cartref ar y blaen wedi 36 munud ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser. Yna, dyblodd Ryan Wade fantais Northwich wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod.

Roedd talcen caled yn wynebu’r Cymry ond rhoddwyd llygedyn o obaith iddynt funud cyn yr awr pan sgoriodd Jake Harris i’w gwneud hi’n 2-1.

Ac roedd yr ymwelwyr yn gyfartal chwe munud cyn y diwedd diolch i ail gôl Harris o’r gêm. Y peth olaf yr oedd Casnewydd ei angen oedd gêm ail chwarae ond fu dim rhaid iddynt boeni am hynny wrth i Nat Jarvis sicrhau’r fuddugoliaeth funud cyn y diwedd.

Mae pethau yn edrych yn addawol i Gasnewydd yn hyn o bryd,  maent wedi bod yn dringo tabl y Gyngres yn raddol dros yr wythnosau diwethaf ac maent bellach un gêm i ffwrdd o Wembley yn y gwpan.