Mayebi - Camgymeriad gwael gan y golwr (llun o wefan y clwb)
Stockport 1–0 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi colli tir ar Fleetwood ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl colli yn erbyn Stockport ar Barc Edgeley brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd gôl-geidwad y Dreigiau, Joslain Mayebi, gôl i’w rwyd ei hun hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf a methodd yr ymwelwyr o ogledd Cymru frwydro’n ôl.

Mae Mayebi wedi bod yn chwaraewr da iawn i Wrecsam trwy’r tymor ond roedd ei gamgymeriad heddiw yn un gwael iawn. Ceisiodd ddyrnu cic gornel Danny Rowe allan o’r cwrt chwech ond adlamodd y bêl yn hytrach i gefn y rhwyd. Smonach gan y golwr a Stockport ar y blaen wedi 27 munud.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Wrecsam ar ddechrau’r ail hanner pan dderbyniodd Jay Harris ei ail gerdyn melyn a cherdyn coch. Roedd Harris eisoes wedi derbyn cerdyn melyn yn yr ugain munud agoriadol felly roedd yn rhaid iddo adael y cae pan dderbyniodd ei ail am drosedd ar Rowe wedi dim ond saith munud o’r ail hanner.

Creodd y Dreigiau ambell i gyfle wedi hynny ond dim digon i achub pwynt. Ac yn wir, bu bron i Stockport ddyblu eu mantais yn hwyr yn y gêm ond gwnaeth Mayebi arbediad da i atal Danny Whitehead.

Mae Fleetwood bellach bum pwynt yn glir o Wrecsam ar frig y Gyngres wedi iddynt guro gartref yn erbyn Alfreton ond mae gan y Dreigiau gêm wrth gefn o hyd.