Scott Williams - arwr y gêm

Lloegr 12-19 Cymru

Mae Cymru wedi ennill y Goron Driphlyg am y tro cyntaf ar faes Twickenham ar ôl curo  Lloegr yn dilyn drama hwyr yn Llundain.

12 pwynt yr un oedd hi gyda phum munud yn weddill diolch i bedair cic gosb yr un gan Leigh Halfpenny ac Owen Farrell. Yna, sgoriodd yr eilydd, Scott Williams, gais cyntaf y gêm gyda phedwar munud yn weddill i roi saith pwynt o fantais i’r ymwelwyr.

Ond roedd mwy o ddrama i ddilyn gyda’r cloc yn goch wrth i’r dyfarnwr fideo orfod penderfynu os oedd David Strettle wedi tirio i Loegr. Ar ôl edrych droeon ar y digwyddiad fe benderfynodd Iain Ramage nad oedd digon o dystiolaeth i ganiatáu’r cais. Cael a chael yn y diwedd felly ond Coron Driphlyg i’r Cymry.

Hanner Cyntaf

Rheolodd Cymru’r tir a’r meddiant yn yr ugain munud agoriadol a bu ond y dim iddynt sgorio cais yn y ddau funud cyntaf. Roedd George North yn rhedeg ar garlam at y llinell gais cyn iddo gael ei atal yng nghysgod y pyst, ac roedd Alex Cuthbert braidd yn anlwcus pan adlamodd cic Rhys Priestland dros y ffîn gwsg ac allan o gyrraedd yr asgellwr.

Ond er gwaethaf goruchafiaeth Cymru yn y chwarter agoriadol parhau yn ddi sgôr a wnaeth hi wrth i Leigh Halfpenny fethu cyfle cymharol hawdd at y pyst wedi i sgrym Cymru chwalu pac y Saeson.

Rhoddodd hynny hyder i’r tîm cartref a hwythau a aeth ar y blaen wedi 24 munud diolch i gic gosb lwyddiannus eu maswr ifanc, Owen Farrell.

Cyfnewidiodd Halfpenny a Farrell dri phwynt yr un yn y pum munud wedyn cyn i Halfpenny lwyddo gydag ymdrech o bellter bum munud cyn yr egwyl, 6-6 gydag ychydig funudau ar ôl.

Ond y Saeson a oedd ar y blaen ar yr egwyl wedi i Farrell lwyddo gyda’i drydydd cynnig at y pyst yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf.

Ail Hanner

Cafwyd dechrau sigledig iawn i’r ail hanner gan Gymru. Anfonwyd Priestland i’r gell gosb wedi iddo gael ei ddal yn camsefyll â Lloegr mewn safle addawol ar linell bum medr Cymru. Ciciodd Farrell y tri phwynt hawdd i ymestyn mantais ei dîm i chwe phwynt ac roedd gan Gymru ddeg munud i’w amddiffyn gyda phedwar dyn ar ddeg.

Ond gwnaeth y Cochion hynny’n gyfforddus ac yn wir, fe gaewyd y bwlch yn ôl i dri phwynt yn ystod y cyfnod hwnnw diolch i gic gosb arall o droed Halfpenny, 12-9 i Loegr gyda chwarter y gêm ar ôl.

Roedd Priestland yn ôl ar y cae bellach ond ei gamgymeriad ef a roddodd gyfle i Loegr a Farrell ymestyn y fantais gyda chwarter awr ar ôl. Cafodd maswr Cymru ei ynysu a’i gosbi  am beidio â rhyddhau’r bêl ond methodd maswr Lloegr gyda chynnig at y pyst am y tro cyntaf yn y gêm.

Dim ond tri phwynt a oedd ynddi o hyd felly a bu bron i Gymru sgorio cais pan fylchodd yr eilydd, Scott Williams, gydag ychydig dros ddeg munud ar ôl. Gwnaeth y canolwr yn dda yn wreiddiol ond dylai fod wedi pasio i un o ddau ddyn a oedd yn rhydd ar yr ochr allan.

Ond roedd Cymru yn gyfartal wedi 72 munud diolch i bedwaredd cic gosb lwyddiannus Halfpenny. 12-12 gydag wyth munud ar ôl.

Drama yn y Diwedd

Yna, wedi 76 munud heb gais daeth drama yn y pedwar munud olaf. Gyda dim ond pedwar munud ar ôl gwnaeth Williams yn iawn am ei gamgymeriad ychydig funudau’n gynharach trwy sgorio’r cais agoriadol. Rhwygodd y bêl o afael y clo, Courtney Lawes, cyn ei chicio tua’r llinell gais. Adlamodd y bêl yn garedig i’r canolwr a phlymiodd dros y llinell i roi Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, 19-12 yn dilyn trosiad rhwydd Halfpenny.

Fe bwysodd Lloegr yn ddi drugaredd yn y tri munud olaf ond daliodd amddiffyn Cymru’n gryf tan i Strettle hyrddio’i hyn at y gwyngalch yn y diwedd. Roedd gan Iain Ramage benderfyniad anodd iawn i’w wneud ond barnodd yn y diwedd nad oedd digon o dystiolaeth i ganiatáu’r cais, a hynny er mawr ryddhad i bob Cymro yn y stadiwm. 19-12 i Gymru y sgôr terfynol.

Mae’r fuddugoliaeth yn sicrhau’r goron driphlyg i dîm Warren Gatland a dim ond yr Eidal a Ffrainc sydd bellach yn sefyll rhwng Cymru a Champ Lawn arall.