Neil Taylor
Mae amddiffynnwr yr Elyrch Neil Taylor wedi dweud mai’r unig beth sydd yn bwysig iddo yw aros yn y rhan uchaf o’r tabl yn yr Uwch Gynghrair ac i aros yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesaf.

Ar ôl 15 ddiwrnod o egwyl bydd Abertawe yn teithio i Stoke City ddydd Sul.

Mae Abertawe yn yr 11fed safle ac yn rhannu’r un cyfanswm o bwyntiau â Stoke sef 30 o bwyntiau, ond gwelir Stoke yn eistedd yn y 13eg safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

Dim llaesu dwylo

Wrth golli i Norwich yn eu gêm ddiwethaf, mae’n siwr bydd hyn yn atgoffa’r Elyrch nad ydynt yn ddiogel rhag bod ar waelod y tabl, ac mae Taylor yn mynnu nad ydynt yn cymryd eu safle yn ganiataol yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

‘‘Mae’n rhaid i ni feddwl am ein hunain yn unig, ac nid y tîmau eraill sydd o’n hamgylch,’’ meddai Taylor.

‘‘Mae angen sicrhau pwyntiau yn y gemau nesaf i fod yn ddiogel.  Nid  ydym wedi gosod cyfanswm o bwyntiau i’w anelu ato, dywed rhai mai 36 pwynt neu 40 o bwyntiau.  Os allwn ni ganolbwyntio ar mynd o un gêm i’r llall gan gipio pwyntiau, byddwn yn iawn,’’ ychwanegodd.

‘‘Nid yw’n fater o laesu dwylo ond gorffen y tymor yn gadarn a rhoi ein hunain mewn sefyllfa gref am y tymor nesaf,’’ dywedodd Taylor.