Bryan 'yr Organ' Jones
Erbyn neithiwr, roedd 116,000 o bobl wedi gwylio’r clip enwog o Bryan ‘yr Organ’ Jones yn colli ei bwyll wrth gefnogi tîm rygbi Cymru.

Yr un ffigwr, sef 116,000, oedd wedi gwylio rhaglen fwyaf poblogaidd S4C, sef Pobol y Cwm, yn ôl y ffigyrau gwylio ar gyfer yr wythnos yn diweddu 29 Ionawr 2012.

Mae’n bur debyg felly y bydd y clip Facebook yma wedi denu mwy o wylwyr na’r rhaglen deledu Gymraeg fwyaf poblogaidd yn y dyddiau nesaf.

“Ma di mynd yn beyond,” dywedodd Ceinwen Jones, gwraig Bryan, wrth Golwg 360 heddiw. “Ma pobol o bob man ishe bookings da fe.”

Adref ar gyfer gêm y Goron Driphlyg

Mae Ceinwen wedi cadarnhau mai adref fydd ei gŵr yn gwylio’r gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn am  4 o’r gloch. Wedi hynny, bydd yn mynd i chwarae’r organ mewn parti i efeilliaid sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 65.

Roedd rhaglen Scrum V wedi gobeithio denu Bryan i Gaerdydd i wylio’r gêm yn y stiwdio. Ond roedd Bryan eisoes wedi addo byddai’n chwarae yn y gyngerdd, ac wedi gwrthod y cynnig.

Er ei fod wedi bod yn recordio ar gyfer rhaglen Jonathan ddydd Mawrth, roedd Bryan yn ôl wrth ei waith fel gyrrwr bws i gwmni Arriva ddoe. Mae’n gyrru bws i’r un cwmni ers 1997.


Bryan gyda'i fab Owain a ffilmiodd y clip gwreiddiol
Cefnogwr llawn angerdd

Wedi i’r fideo cael ei lwytho i Facebook gan Owain Jones, mab Bryan, mae pobol o ben draw’r byd wedi bod yn gwylio’r dyn ‘dwl’ o Benrhyn-coch yn mynd yn wyllt.

Mae Bryan hefyd wedi bod yn ymddangos mewn papurau, cylchgronau, ac ar raglenni teledu di-ri, wrth i fwrlwm ei angerdd gipio diddordeb Cymru a’r byd tu hwnt i glawdd Offa.

Mae hefyd wedi recordio clipiau ecsgliwsif i Golwg a Golwg360, sydd wedi eu rhyddhau heddiw, ac mae portread arbennig ohono yng nghylchgrawn Golwg heddiw.

Mae’r fideo byr ‘Ff** mi ffaro’ yn dogfennu ymateb Bryan Jones wrth i dîm rygbi Cymru ymosod yn erbyn yr Albanwyr, gan arwain at gais Alex Cuthbert.

Does dim iaith anweddus yn y clipiau a recordiwyd ar gyfer Golwg, ond dyw’r neges wreiddiol ar Facebook ddim yn addas ar gyfer plant na phobl sy’n anhapus gyda rhegi cyson.

Gallwch weld cyfweliad fideo dwy funud Golwg gyda Bryan trwy brynu’r  ‘ap Golwg’ yr wythnos hon – cliciwch yma i wneud hynny.

Geiriau coch ym Mhenrhyncoch

Dyw hi ddim yn gwneud fawr o wahaniaeth i Bryan pwy mae’r Cymry’n chwarae.

“’Sdim wahaniaeth pwy yffarn yw’r gelyn – hyd yn oed sen ni’n whare’r Russians,” medd Bryan. “Sen nhw’n whare Alaska, yr un peth fydde hi. Dim ond fod Cymru’n whare ‘international’ de?

Mae e hefyd yn trafod ei ymateb pan mae Cymru’n colli yn y rygbi, ei hoffter o snwcer, ac yn ceisio cofio enw capten tîm rygbi Cymru.

A pan ofynnodd Golwg360 iddo beth oedd ystyr y dywediad enwog ‘Ff** mi ffaro, dywedodd Bryan “Ffaro yw ffaro! Jyst dywediad yw e! Fel ‘twll dy din di ffaro, ma’r môr mawr wedi cau.”

Gallwch weld portread Bryan Jones a lluniau o Bryan a’r teulu yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma, tra bod y cyfweliad fideo i’w weld ar ap Golwg.

Gwyliwch neges Bryan i dîm Cymru cyn herio Lloegr isod:

Gohebydd: Owain Llŷr