Mae Raymond Verheijen, is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, unwaith eto wedi ymosod ar Gymdeithas Pêl-droed Cymru ar wefan Twitter heno.

Echnos roedd Verheijen wedi beirniadu’r Gymdeithas am beidio dweud wrtho mai ef ac Osian Roberts fyddai yng ngofal tîm Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica wythnos nesaf.

Aeth ymlaen i gwyno bod Rheolwr Gweithrediadau Cymru, Adrian Davies wedi cael ei ddiswyddo, ac na fyddai gyda’r tîm ar gyfer y gêm goffa i Gary Speed.

Mae wedi corddi’r dyfroedd ymhellach ynglŷn ag Adrian Davies heno.

“Rwy dal yn methu credu nad yw’r FAW wedi gwahodd y Rheolwr Gweithrediadau Adrian Davies i fod gyda’r tîm ar gyfer y gêm goffa. Amharchus iawn.”

Wrth siarad â Golwg360, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi gwadu sylwadau gwreiddiol Verheijen, gan ddweud ei fod yn gwybod ers wythnosau mai ef ac Osian Roberts fyddai’n gyfrifol am y tîm.

Mae’r sylwadau heno’n codi cwestiynau pellach am ddyfodol Verheijen fel rhan o dîm hyfforddi Cymru.