Peter Whittingham
Mae chwaraewr canol-cae Caerdydd, Peter Whittingham, ar restr fer Chwaraewr y Flwyddyn y Bencampwriaeth.

Mae’r ddau arall yn y ras yn dod o glwb Southampton,  sef Rickie Lambert ac Adam Lallana.

Whittingham yw prif sgoriwr Caerdydd y tymor hwn gyda 10 gôl, a mae wedi chwarae rhan ganolog yn ymgyrch yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth, lle maen nhw’n bumed. Dydd Sul bydd Whittingham yn teithio gyda Chaerdydd i Wembley i gwrdd â Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan Carling.

Bydd rheolwyr y gynghrair bêl-droed yn dewis y chwaraewr buddugol a chyhoeddir yr enillydd yn seremoni wobrwyo’r Gynghrair Bêl-droed ar Fawrth 11.