Tom Smith
Mae chwaraewr rheng ôl y Gweilch, Tom Smith, wedi cadarnhau ei fod yn symud i’r Gwyddelod yn Llundain ar ddiwedd y tymor.

Roedd cytundeb cyfredol y Cymro 26 oed gyda’r Gweilch yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac mae wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r tîm o Uwch Gynghrair Aviva.

Fe fydd yn ymuno â chyn chwaraewr arall o’r Gweilch, Jonathan Spratt ynghyd â’r Cymry eraill Darren Allinson a Steve Shingler yn rhengoedd y Gwyddelod ar Stadiwn Madeiski.

Amser yn iawn

Fe chwaraeodd Smith ei gêm gyntaf i’r Gweilch yn erbyn Connacht yn Chwefror 2007, ac ers hynny mae wedi gwneud 83 ymddangosiad i’r rhanbarth gan sgorio dau gais.

“Yn amlwg mae’n drist i fod yn gadael fy rhanbarth leol, ac roedd yn benderfyniad anodd ei wneud, ond ro’n i’n teimlo bod yr amser yn iawn i mi’n bersonol i symud ymlaen at sialens ffres,” meddai Smith.

“Rwy wastad wedi bod yn falch iawn o gael bod yn Walch a bydd y rhanbarth bob amser yn gartref i mi, ond mae natur gêm broffesiynol yn golygu nad ydy pobol yn aros mewn un lle.”

“Mae gen i lawer o ffrindiau da a fydd dal yma, a hoffwn ddiolch i’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr, rheolwyr a’r cefnogwyr am yr holl gefnogaeth dwi wedi’i gael gyda’r Gweilch.”

“Mae gennym lot i gystadlu drosto’r tymor yma o hyd ac rwy’n edrych ymlaen at adael ar nodyn uchel.”