Roedd 'magic-daps' yn un o sêr y penwythnos
Fel arfer, criw Sgorio sy’n dewis tîm yr wythnos Uwch Gynghrair Cymru

Golwr

Lee Idzi (Bangor) – Cafwyd sawl arbediad campus gan Idzi rhwng y pyst wrth i Fangor drechu Llanelli ar Barc Stebonheath. Llwyddodd i rwystro Jordan Follows a Craig Williams yn wych yn ystod yr ail hanner er mwyn cadw bechgyn Nev Powell yn y gêm.

Amddiffynwyr

Luke Cummings (Castell-nedd) – Ers ennill ei le yn nhîm yr Eryrod, mae Cummings wedi blodeuo o dan reolaeth Kris O’Leary. Llwyddodd i gadw Lee Hunt yn dawel trwy gydol y gêm brynhawn Sul a chyfrannu i ymdrech i rwystro y Bala rhag sgorio.

Jamie Brewerton (Bangor) – Roedd capten Bangor yn gawr yn amddiffyn y Dinasyddion gan gadw Rhys Griffiths yn dawel, a bachodd gôl hollbwysig yn yr eiliadau olaf i sicrhau buddugoliaeth gyntaf Bangor yn Lanelli ers 2007.

Michael Johnson (Bangor) – Unwaith eto roedd Johnson yn arbennig yng nghanol amddiffyn Bangor. Roedd Andy Legg wedi dweud cyn y gêm fod rhaid i Lanelli guro’r pencampwyr os am gadw eu gobeithio o gipio’r bencampwriaeth yn fyw, ond gyda Johnson a Brewerton yn tanio, doedd dim gobaith i Rhys Griffiths ychwanegu at ei gyfanswm goliau.

Jack Lewis (Castell-nedd) – Un arall o dîm Castell-nedd sy’n ennill ei le yn nhîm yr wythnos ar ôl perfformiad cadarn a chanmoladwy iawn wrth gadw ymosodwyr Y Bala’n ddistaw ar Y Gnoll – Castell-nedd yw’r unig dîm sydd wedi cadw’r Bala rhag sgorio yn y gynghrair y tymor yma.

Canol cae

Tom Roberts (Y Seintiau Newydd) – Rhwydodd Roberts gôl hyfryd wrth i’r Seintiau chwalu Prestatyn nos Wener. Mae’r chwaraewr ifanc o Sir Ddinbych wedi sicrhau ei le yn nhîm y Seintiau gyda sawl perfformiad canmoladwy yn ddiweddar ac mae ei gôl yn werth ei wylio!

Geoff Kellaway (Aberystwyth) – Kellaway oedd dewis Malcolm Allen fel seren y gêm fyw brynhawn Sadwrn. Rhwydodd ddwywaith wrth i Aberystwyth ddod yn ôl i sicrhau gêm gyfartal gartref yn erbyn Caerfyrddin brynhawn Sadwrn.

Jonathan Hood (Caerfyrddin) – Rhwydodd Hood gôl hyfryd i Gaerfyrddin ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn ond yn ogystal a’i gôl, gweithiodd Hood yn eithriadol, o galed yng nghanol cae i dîm Mark Aizelwood gan greu problemau lu i amddiffyn Aberystwyth.

Ryan Fraughan (Y Seintiau Newydd) – Creodd Fraughan broblemau lu i Brestatyn ar Erddi Bastion nos Wener. Roedd ei wrthymosodiadau chwim yn ormod i’r tîm cartref ac yn ogystal a chreu gôl agoriadol Aeron Edwards fe aeth yn agos iawn at fachu gôl ei hun hefyd.

Neville Thompson (Airbus) – Er fod Airbus wedi sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Y Drenewydd, mae’n deg dweud fod perfformiad Y Drenewydd yn siomedig iawn nos Wener, ond mae Thompson yn haeddu ei le yn y tîm ar ôl rwydo ei gôl gyntaf i Airbus ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb ers ymuno o Stafford Rangers.

Ymosodwr

Lee Trundle (Castell-nedd) – Roedd ’magic daps’ ar ei orau unwaith eto yn erbyn Y Bala brynhawn Sul gan rwydo ddwywaith i sicrhau bod Castell-nedd yn parhau i fod yn y ras am y bencampwriaeth – roedd ei ddoniau a’i driciau yn ormod i’r gogleddwyr ac yn werth eu gwylio.

Cofiwch wylio holl uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru ar raglen Sgorio am 22:00 heno ar S4C.