Drenewydd 0-4 Airbus

Dim ond torf o 93 a ddaeth i Barc Latham nos Wener i weld y tîm cartref yn colli’n drwm yn erbyn Airbus. Roedd gôl yn yr hanner cyntaf a thair arall yn yr ail yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i’r ymwelwyr.

Manteisiodd Neville Thompson ar amddiffyn gwan yng ngwrt chwech y Drenewydd i sgorio’r gyntaf wedi 37 munud.

Roedd hi’n ddwy ddau funud wedi’r egwyl wedi i Mike Hayes rwydo o ddwy lath ar ôl i Nick Thomas ollwng ergyd Mark Danks.

Daeth trydedd chwarter awr o’r diwedd wrth i Jay Connolly benio croesiad Danks i gefn y rhwyd ac ychwanegodd Jonathon Bathurst y bedwaredd ddeg munud yn ddiweddarach

Mae’r canlyniad yn cadw Airbus yn y seithfed safle holl bwysig tra mae’r Drenewydd yn aros ar waelod y tabl.

Port Talbot 1-2 Lido Afan

Lido Afan a oedd yn fuddugol yng ngêm ddarbi Port Talbot yn Stadiwm GenQuip nos Wener. Er i Martin Rose roi’r tîm cartref ar y blaen wedi ychydig dros chwarter awr fe dderbyniodd tri o’i gyd chwaraewyr gardiau coch wedi hynny a sgoriodd Leon Jeanne gôl ym mhob hanner i fachu’r tri phwynt i Lido.

Gwnaeth Rose yn dda i ddod o hyd i gornel isaf y rhwyd wedi 17 munud yn dilyn gwaith cryf gan ei gyd ymosodwr, Cortez Belle, yn y cwrt cosbi.

Ond newidiodd y gêm mewn cyfnod o dri munud yn hwyrach yn yr hanner. Anfonwyd amddiffynnwr Port Talbot, Paul Cochlin oddi ar y cae wedi 27 munud ar ôl iddo dderbyn ail gerdyn melyn am drosedd ar Carl Payne. Yng nghanol y ffrae a ddilynodd fe dderbyniodd David Brooks gerdyn coch hefyd ac roedd Port Talbot i lawr i naw. Doedd fawr o syndod felly i Jeanne unioni’r sgôr o’r gic rydd ganlynol gyda pheniad rhydd wrth y postyn pellaf.

Ond fe ddaliodd naw dyn Port Talbot yn dda am weddill yr hanner cyntaf ac am 43 munud o’r ail hefyd. Ond gyda dim ond dau funud yn weddill rhwydodd Jeanne ei ail gydag ergyd wych i’r gornel isaf o 20 llath.

Ac i rwbio halen yn y briw bu rhaid i’r tîm cartref orffen y gêm gydag wyth dyn wedi i Belle hefyd dderbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch. Ond nid oedd y dyfarnwr, Bryn Markham-Jones wedi gorffen gan iddo anfon Mark Jones, rheolwr Port Talbot, i’r eisteddle hefyd!

Mae hwn yn ganlyniad arwyddocaol gan ei fod yn rhoi tri phwynt o fantais i Lido Afan dros eu cymdogion yn y ras am y seithfed safle. Lido sydd bellach yn wythfed gyda Phort Talbot yn nawfed.

Prestatyn 0-4 Y Seintiau Newydd

Cafodd Y Seintiau Newydd fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Prestatyn yng Ngherddi Bastion nos Wener.

Agorodd Aeron Edwards y sgorio gyda pheniad o dair llath wedi dim ond pum munud ac roedd hi’n ddwy dri munud cyn yr egwyl diolch i ergyd wych Tom Roberts o 20 llath yn dilyn symudiad slic gan y Seintiau.

Ychwanegodd Alex Darlington ddwy gôl arall wedi’r egwyl i wneud y fuddugoliaeth yn un gyfforddus. Rhwydodd y gyntaf o’r smotyn wedi 49 munud ar ôl cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan David Hayes ac ychwanegodd un arall wedi 67 munud trwy orffen symudiad taclus arall gan yr ymwelwyr.

Peniodd Jon Fisher-Cooke yn erbyn y trawst i Brestatyn yn hwyr yn y gêm ond doedd dim gôl gysur i fod.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Seintiau yn yr ail safle tra mae Prestatyn yn aros yn y chweched safle.

Llanelli 0–1 Bangor

Adferodd Bangor eu pedwar pwynt o fantais ar frig yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth yn erbyn Llanelli ar Stebonheath brynhawn Sadwrn. Roedd y bwlch hwnnw wedi ei gau i un pwynt dros nos diolch i fuddugoliaeth Y Seintiau Newydd nos Wener.

Roedd hi’n ddi sgôr am dros 90 munud cyn i gapten Bangor, Jamie Brewerton sgorio unig gôl y gêm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae Bangor felly yn aros ar y brig a Llanelli yn y pedwerydd safle ond mae un ar ddeg pwynt bellach yn gwahanu’r ddau dîm.

Aberystwyth 2–2 Caerfyrddin

Sgoriodd Geoff Kellaway ddwywaith yn chwarter olaf y gêm i gipio pwynt i Aberystwyth yn erbyn Caerfyrddin o flaen camerâu Sgorio yng Nghoedlan y Parc brynhawn Sadwrn.

Roedd Caerfyrddin yn edrych yn gyfforddus iawn wedi awr o chwarae wedi i gôl Jack Christopher yn yr hanner cyntaf ac ymdrech wych Jonathan Hood yn gynnar yn yr ail roi dwy gôl o fantais i’r ymwelwyr. Ond brwydrodd Aberystwyth yn ôl yn yr hanner awr olaf a rhwydodd Kellaway hanner ffordd trwy’r hanner ac yna eto chwe munud o’r diwedd i gipio gêm gyfartal i’r tîm cartref.

Castell Nedd 2–0 Bala

Roedd dwy gôl gan Lee Trundle yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gastell Nedd yn erbyn y Bala ar y Gnoll brynhawn Sul.

Sgoriodd y blaenwr ei gyntaf wedi dim ond deuddeg munud cyn ychwanegu ei ail ef ac ail ei dîm wedi wyth munud o’r ail hanner.

A daliodd yr Eryrod eu gafael ar y tri phwynt er iddynt orffen y gêm gyda deg dyn wedi i Chris Jones dderbyn cerdyn coch hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Mae Castell Nedd yn aros yn drydydd tra mae’r Bala yn parhau yn y pumed safle yn y tabl.

Cofiwch bod modd gwylio holl uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru ar raglen Sgorio ar S4C bob nos Lun.