Aberystwyth 2-2 Caerfyrddin
Sgoriodd Geoff Kellaway ddwywaith yn chwarter olaf y gêm i gipio pwynt i Aberystwyth yn erbyn Caerfyrddin o flaen camerâu Sgorio yng Nghoedlan y Parc brynhawn Sadwrn.
Roedd Caerfyrddin yn edrych yn gyfforddus iawn wedi awr o chwarae wedi i gôl Jack Christopher yn yr hanner cyntaf ac ymdrech wych Jonathan Hood yn gynnar yn yr ail roi dwy gôl o fantais i’r ymwelwyr. Ond brwydrodd Aberystwyth yn ôl yn yr hanner awr olaf a rhwydodd Kellaway hanner ffordd trwy’r hanner ac yna eto chwe munud o’r diwedd i gipio gêm gyfartal i’r tîm cartref
Hanner Cyntaf
Cafwyd chwarter awr cyntaf digon distaw i’r gêm a chafwyd hoe hir wedi chwarter awr wrth i amddiffynnwr Aberystwyth, Craig Williams, dderbyn triniaeth am anaf cas.
Pan ail ddechreuodd y gêm roedd Caerfyrddin yn llawer mwy effro a gwrthymosododd yr ymwelwyr yn gyflym gan greu gôl i Christopher wedi 19 munud. Gwnaeth Dan Macdonald waith da iawn ar y dde i ddechrau cyn codi’r bêl dros amddiffyn Aberystwyth i lwybr Christopher yn y cwrt cosbi a gwnaeth yntau’r gweddill. Roedd hi’n ymddangos fod gôl-geidwad Aber, Steve Cann, wedi ennill y bêl a bod Christopher wedi ei chicio o’i afael ond cafodd y gôl ei chaniatau ac roedd Caerfyrddin ar y blaen.
Christopher oedd yn creu cyfle i Macdonald dri munud yn ddiweddarach gyda chroesiad da o’r dde ond gwnaeth Cann yn dipyn gwell y tro hwn gan arbed yn isel i’w chwith. Yna daeth cyfle cyntaf Aber yn y pen arall ond gwnaeth Neil Smothers yn dda i atal ergyd Josh Shaw yn y cwrt cosbi.
Ni chafwyd llawer o gyfleoedd wedi hynny a Chaerfyrddin oedd yn parhau i reoli pethau ond roedd Aberystwyth yn dechrau gwella tuag at ddiwedd yr hanner.
Ail Hanner
Methodd Christopher gyfle da i ddyblu mantais Caerfyrddin yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Hood lwyddo i wneud hynny mewn steil wedi 51 munud. Methodd Aberystwyth a chlirio’r bêl ar ôl cic gornel ac adlamodd yn y diwedd i Hood ar ochr y cwrt cosbi, tarodd yntau daran o foli o ugain llath a doedd gan Cann yn y gôl ddim gobaith, 2-0 i’r ymwelwyr.
Yna dechreuodd Aber ddod yn ôl i’r gêm yn raddol a bu bron i Wyn Thomas sgorio toc cyn yr awr pan beniodd yn gywir o gic rydd Michael Howard ond arbedodd Mike Lewis yn wych â’i droed.
Parhau i bwyso a wnaeth y tîm cartref a daeth y gôl wedi 67 munud. Nid oedd ergyd uchelgeisiol Howard yn mynd yn agos at y gôl ond daeth o hyd i Kellaway ar ochr y cwrt cosbi a rheolodd yntau’n gywir gyda chyffyrddiad cyntaf gwych cyn taro foli heibio i Lewis yn y gôl gydag ail gyffyrddiad gwell fyth. Gôl dda arall ac Aber yn ôl yn y gêm.
Roedd gôl arall i un o’r ddau dîm yn anorfod wrth i Aberystwyth bwyso a Chaerfyrddin wrthymosod ac i’r tîm cartref y daeth hi chwe munud o’r diwedd. Doedd peniad Tim Hicks yn ôl at Lewis ddim yn ddigon cryf a sleifiodd Kellaway rhwng yr amddiffynnwr a’r gôl-geidwad i ddwyn y bêl a sgorio i rwyd wag o ongl dynn.
Parhau i bwyso wrth chwilio am y gôl fuddugol a wnaeth Aber yn y munudau olaf ond daliodd Caerfyrddin eu gafael ar y pwynt. A phwynt haeddianol iawn ydoedd hefyd gan i dîm Mark Aizlewood reoli rhannau helaeth o’r gêm.
Ymateb
Roedd Alan Morgan, rheolwr Aberystwyth, yn ddigon hapus gyda pherfformiad ei dîm yn yr ail hanner ond ddim mor hapus gyda’r dechrau gwael.
“Fe ddechreuon ni’n wael heddiw ond fe daron ni’n ôl gyda dwy gôl a dylen ni fod wedi ennill yn y diwedd. Os chwaraewn ni felly tan ddiwedd y tymor fe fyddwn ni’n iawn ond rhaid inni ddechrau gemau cyn mynd ddwy gôl i lawr.”
A theimladau cymysg digon tebyg oedd gan MarK Aizlewood, rheolwr Caerfyrddin ar ôl y gêm hefyd.
“Cyn heddiw mae’r tîm wedi chwarae un deg un gêm oddi cartref heb ennill pwynt o gwbl. Un pwynt heddiw a dwi’n hapus iawn gydag un pwynt ond braidd yn siomedig na chawsom ni’r tri.”
Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn y tabl. Mae Aberystwyth yn aros yn y degfed safle bedwar pwynt o flaen Caerfyrddin yn yr unfed safle ar ddeg.