Stockport 2–2 Casnewydd
Gêm Casnewydd oddi cartref ym Mharc Edgeley yn erbyn Stockport oedd yr unig gêm yn Uwch Gynghrair y Blue Square i oresgyn y tywydd oer brynhawn Sadwrn. A bydd Justin Edinburgh yn ddigon balch bod y gêm wedi cael ei chwarae gan i’w dîm gipio pwynt gyda deg dyn.
Roedd Stockport ar y blaen o 2-1 ar yr awr wedi i Danny Rowe sgorio’i ail o’r gêm ddau funud yn unig wedi i Andy Sandell gael ei anfon oddi ar y cae i Gasnewydd. Ond brwydrodd y deg dyn yn ôl gan ennill pwynt diolch i gôl Jake Harris dri munud cyn y diwedd.
Sgoriodd Rowe ei gyntaf wedi dim ond wyth munud i roi’r tîm cartref ar y blaen wedi i Tom Elliott ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.
Ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Casnewydd yn gyfartal wedi dim ond pum munud o’r ail hanner diolch i ergyd gywir Sandell o 20 llath.
Roedd Sandell yn ei chanol hi eto wedi 58 munud pan welodd gerdyn coch am gega ar y dyfarnwr. A thalodd Casnewydd y pris o fewn dau funud wrth i Rowe rwydo’i ail. Cafodd ei lorio ar ochr y cwrt cosbi gan Lee Minshull cyn codi ar ei draed i sgorio’r gic rydd.
Talcen caled yn wynebu Casnewydd gyda hanner awr ar ôl felly ond brwydrodd y deg dyn yn ddewr a chawsant eu haeddiant dri munud cyn y diwedd pan wnaeth Minshull yn iawn am ei gamgymeriad cynharach trwy ddod o hyd i Harris yn y cwrt chwech. Rhwydodd yntau i gipio gêm gyfartal i’w dîm.
Mae Casnewydd yn aros yn safleoedd y gwymp ar waelod Uwch Gynghrair y Blue Square er gwaethaf y gêm gyfartal ond mae’n bwynt gwerthfawr serch hynny.