Caerlŷr 2–1 Caerdydd
Canlyniad a pherfformiad siomedig a gafwyd gan Gaerdydd yn Stadiwm King Power brynhawn Sadwrn wrth i Gaerlŷr ennill yn gymharol gyfforddus er gwaethaf y sgôr terfynol agos.
Rhoddodd dwy gôl Paul Gallagher fantais gyfforddus i’r tîm cartref dri chwarter ffordd trwy’r gêm ac er i Peter Wittingham roi llygedyn o obaith i’r Adar Gleision gyda chic o’r smotyn yn y chwarter awr olaf dychwelyd yn waglaw o ganolbarth Lloegr fu rhaid i Gaerdydd.
Hanner Cyntaf
Roedd yn rhaid i David Marshall fod ar flaenau ei draed ar sawl achlysur yn yr hanner cyntaf wrth i Gaerlŷr reoli’r gêm. Gwnaeth y gôl-geidwad yn dda i arbed ymdrech din dros ben Richie Wellens ac ergyd Paul Konchesky o bellter.
Ond allai Marshall ddim gwneud llawer i atal Haris Vuckic rhag ildio cic o’r smotyn am drosedd ar Wellens bedwar munud cyn yr egwyl. Ac ni allai’r Albanwr wneud llawer i atal y daran o gic gan Gallagher o ddeuddeg llath ychwaith.
Roedd Kenny Miller yn meddwl ei fod wedi unioni’r sgôr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner ond roedd yn camsefyll yn ôl y dyfarnwr cynorthwyol pan gododd y bêl yn gelfydd dros Kasper Schmeichel yn y gôl i’r Llwynogod.
Ail Hanner
Bu bron i David Nugent ddyblu mantais Caerlŷr yn gynnar yn yr ail hanner ond arbedodd Marshall yn dda. A llwyddodd y gôl-geidwad i atal ergyd dda Jermaine Beckford toc wedi’r awr hefyd.
Ond fu dim rhaid i’r tîm cartref aros llawer hirach i rwydo’r ail. 70 munud oedd ar y cloc pan loriodd Don Cowie Lloyd Dyer ar ochr y cwrt cosbi cyn i Gallagher rwydo’r gic rydd.
Rhoddwyd gobaith i Gaerdydd gyda chwarter awr yn weddill wrth i Wittingham rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd Konchesky ar yr eilydd, Rudy Gestede, yn y cwrt cosbi. Ond er bod digon o amser i’r Cymry ennill pwynt daliodd Caerlŷr eu gafael ar y tri.
Mae’r Adar Gleision yn aros yn y pedwerydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth er gwaethaf y canlyniad ond byddant yn dechrau edrych dros eu hysgwydd wedi i Hull a Reading ennill heddiw.