Abertawe 2–3 Norwich

Colli fu hanes Abertawe brynhawn Sadwrn am yr eildro’n unig yn Stadiwm Liberty’r tymor hwn. Norwich, tîm arall a gododd gyda’r Elyrch i’r Uwch Gynghrair ar ddechrau’r tymor oedd yr ymwelwyr i dde orllewin Cymru ac roeddynt yn llawn haeddu eu buddugoliaeth.

Rhoddodd gôl Danny Graham fantais i’r Elyrch ar yr egwyl ond sgoriodd Norwich dair yn ugain munud cyntaf yr ail hanner a doedd ail gôl Graham yn hwyr yn y gêm ddim yn ddigon i’r tîm o Gymru wrth iddi orffen yn 3-2 o blaid yr ymwelwyr.

Hanner Cyntaf

Norwich oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac roedd yr Elyrch yn ei chael hi’n anodd rheoli’r meddiant yn eu dull arferol. Bu rhaid i Michel Vorm fod ar ei orau i arbed cic rydd Anthony Pilkington ac ergyd Grant Holt cyn i Graham roi Abertawe ar y blaen yn erbyn llif y chwarae hanner ffordd trwyr hanner. Derbyniodd y bêl gan Nathan Dyer cyn gorffen yn daclus heibio i John Rudy yn y gôl i Norwich.

Bu rhaid i Vorm fod ar flaenau ei draed eto cyn yr egwyl i arbed ergyd Andrew Surman ond llwyddodd yr Elyrch i fynd i’r ystafell newid ar y blaen.

Cyfle felly i Brendan Rodgers gael gair â’i dîm felly ond ni welwyd llawer o dystiolaeth o hynny yn ugain munud cyntaf yr ail hanner wrth i Norwich rwydo tair.

Ail Hanner

Peniad gan yr ymosodwr cryf, Grant Holt, oedd y gyntaf wedi llai na dau funud o’r ail gyfnod, y Caneris yn haeddianol gyfartal.

Ac roeddynt ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach wedi i ergyd Pilkington wyro’n greulon oddi ar Neil Taylor heibio i Vorm ac i gefn y rhwyd. Ychwanegodd Holt ei ail toc wedi’r awr ac roedd gan yr Elyrch fynydd i’w ddringo.

Byddai’r mynydd hwnnw yn un mwy oni bai am ambell arbediad gan Vorm, llwyddodd y gôl-geidwad i atal Kyle Naughton a Wes Hoolahan wrth i’r gêm dynnu at ei therfyn.

Ond roddwyd gobaith i Abertawe gyda phedwar munud yn weddill wrth i Graham rwydo ei ail ef ac ail ei dîm. Roedd Holt wedi bod yn cael y gorau o Ashley Williams ym mocs Abertawe trwy gydol y prynhawn ond ildiodd ymosodwr Norwich gic o’r smotyn am drosedd ar amddiffynnwr Cymru pan gyfarfu’r ddau yn y pen arall yn hwyr yn y gêm. Llwyddodd Graham gyda’r gic o’r smotyn ac roedd gan ei dîm dri munud ac amser anafiadau go sylweddol i achub pwynt.

Ond methodd yr Elyrch a gwneud hynny er i Steven Caulker gael cyfle da yn yr eiliadau olaf. 3-2 y sgôr terfynol felly ac Abertawe’n colli gartref am yr eildro’r tymor hwn.

Mae tîm Brendan Rodgers yn disgyn un lle i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl o ganlyniad i’r sgôr ar y Liberty a buddugoliaeth Everton gartref yn erbyn Chelsea.