Dutch Ray
Mae Chris Coleman wedi dweud wrth y BBC ei fod yn chwilio am ffyrdd o gadw Raymond ‘Dutch Ray’ Verheijen yn rhan o’i dîm hyfforddi.

Bu cyfarfod rhwng y ddau yn gynharach yn yr wythnos, wedi peth tyndra ar ôl i Verheijen ddweud ei fod ef yn awyddus i olynu Gary Speed.

Ond Chris Coleman gafodd y gwaith ac nawr mae’n dweud ei fod yn gobeithio cynnwys Verheijen yn y tîm rheoli.

Yn ôl rheolwr Cymru roedd wedi treulio “dwy i dair awr” gyda Dutch Ray yn Llundain, ac roedd yn “gyfarfod ffrwythlon ac mi fyddwn yn siarad eto…roedd yn addawol.”

Mae Verheijen yn ffefryn ymhlith y chwaraewyr ac wedi bod yn gyfrifol am roi gofal arbennig i Craig Bellamy, chwaraewr allweddol sy’n diodde’ anaf achlysurol i’w ben-glin.

Mi allai presenoldeb Dutch Ray berswadio Bellamy i barhau i chwarae dros ei wlad. Ar hyn o bryd mae’r ymosodwr ar dân dros Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr.