Brendan Rodgers
Ymddengys bod rheolwr Abertawe yn barod i arwyddo cytundeb newydd fydd yn ei gadw gyda’r Elyrch tan 2015.
Mae Brendan Rodgers wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda chadeirydd y clwb, Huw Jenkins, ac mae disgwyl iddo arwyddo’r cytundeb yn y dyddiau nesaf.
Bydd y newyddion yn derbyn croeso mawr gan gefnogwyr yr Elyrch – ers derbyn y swydd flwyddyn a hanner yn ôl, mae Rodgers wedi bod yn gaeth i gytundeb blynyddol.
Mae ei lwyddiant yn y cyfnod byr hwnnw wedi denu sylw clybiau mawr yn ogystal â thimau rhyngwladol – roedd adroddiadau bod Gogledd Iwerddon am benodi’r gŵr 39 oed yn gynharach yn y tymor.
“Rwyf wedi siarad â’r cadeirydd heddiw ac rydym ni wedi cytuno ar bopeth o ran egwyddor,” meddai Rodgers ddoe.
“Mae angen i ni ddrafftio’r gwaith papur i mi ei dderbyn dros y penwythnos, wedyn bydda i’n ei arwyddo a bydd hynny’n ffantastig.
“Roedd yn glir i mi fy mod eisiau aros yma. Ychydig iawn oedd yna i’w drafod a byddaf yn falch o allu bwrw ymlaen â’r prosiect.”
Bolton ar y gorwel
Mae Rogers yn paratoi ei dîm i herio Bolton Wanderers ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA dros y penwythnos, cyn iddyn nhw groesawu Chelsea i’r Liberty yn y gynghrair nos Fawrth.
Mae’r Elyrch wedi cael hanner cyntaf gwych i’r tymor yn yr Uwch Gynghrair..
“Roedd i’w weld yn sialens aruthrol i ennill dyrchafiad, ond ers hynny rydym ni wedi dangos ein bod yn gallu cystadlu ar y lefel yma,” meddai’r hyfforddwr.
“Er bod yr ysbryd yn uchel a’n bod ni’n chwarae’n dda, y nod ydy aros yn y gynghrair a byddai hynny’n dod â mwy o arian i’r coffrau er mwyn gallu buddsoddi.
“Ond y nod ydy gwneud Abertawe’n gynaliadwy ac mae’n amlwg y gallwch adeiladu ar hynny wedyn.”