Stephen Jones ar y chwith
Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad mae Cymru wedi galw ar y maswr Stephen Jones i hyfforddi gyda’r garfan mas yng Ngwlad Pwyl.
Caiff ei gyfle oherwydd bod un arall o faswyr Cymru James Hook yn gadael Gdansk am Perpignan i chwarae dros y clwb yn Ffrainc y penwythnos hwn.
Bydd maswr y Scarlets yn hyfforddi gyda’r tîm heddiw, ac fe fydd yn gobeithio disgleirio er mwyn bachu cyfle i ychwanegu i’w 104 o gapiau dros Gymru.
Fe fydd Cymru’n cychwyn y Bencampwriaeth mas yn Nulyn wythnos i ddydd Sul, a’r unig chwaraewr sydd ddim ar gael I Gatland hyd yma yw’r prop amryddawn Gethin Jenkins.