Worksop 1–3 Casnewydd

Mae Casnewydd drwodd i drydedd rownd Tlws yr FA yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Worksop ar Sandy Lane. Roedd dwy gôl hwyr Jake Harris yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Justin Edinburgh.

Cafwyd hanner cyntaf di sgôr cyn i Elliot Buchanan roi’r ymwelwyr o Gymru ar y blaen wedi 58 munud.

Ond yn ôl y daeth y tîm o Gyngres y Gogledd diolch i gôl Massiah McDonald wedi 71 munud.

Roedd y gêm hon wedi cael ei gohirio ddwy waith yn barod gan fod cae Worksop wedi rhewi a’r peth olaf yr oedd Justin Edinburgh ei eisiau oedd gorfod ail chwarae ym Mharc Sbyty yn dilyn gêm gyfartal.

Ond doedd dim rhaid iddo boeni am hynny diolch i ddwy gôl hwyr Harris. Rhwydodd yr ymosodwr wedi 86 munud ac yna eto yn y munud olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm o Gymru.

Mae Casnewydd yn nhrydedd rownd y gwpan yma felly ond byddant yn troi eu golygon at Gwpan Cymru ddydd Sadwrn wrth iddynt deithio i Neuadd y Parc i herio’r Seintiau Newydd. Ond mae’n debyg mai tîm gwan fydd yn dechrau’r gêm honno gan fod gan y clwb gêm bwysig yn erbyn Gateshead yn Uwch Gynghrair y Blue Square ar yr un diwrnod.