Forest Green 1-0 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi disgyn oddi ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Forest Green ar y New Lawn. Dylai’r Dreigiau fod wedi dychwelyd gyda phwynt ond methodd Dean Keates gic o’r smotyn hwyr bwysig am yr ail dro mewn wythnos.

Aeth Forest Green ar y blaen wedi tri munud o’r ail hanner pan sodlodd Matty Taylor ergyd James Norwood heibio i Joslain Mayebi yn y gôl i Wrecsam.

Cafodd Mayebi ei gadw’n ddigon prysur am weddill yr ail hanner a gwnaeth sawl arbediad i gadw ei dîm yn y gêm.

A chawsant gyfle gwych i gipio pwynt wedi pum munud o’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wedi i Andy Morrell gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan gôl-geidwad Forest Green, Sam Russell. Keates oedd yr unig chwaraewr i fethu cic o’r smotyn yn erbyn Brighton nos Fercher diwethaf ond y chwaraewr canol cae a gymerodd hon serch hynny. Ac yn anffodus, methu oedd ei hanes unwaith eto wrth i Russell arbed a gorfodi Wrecsam i ddychwelyd i ogledd Cymru’n waglaw.

Mae’r golled yn golygu eu bod yn disgyn o frig y Gyngres gan i Fleetwood guro gartref yn erbyn Braintree heno.