Wembley - Caerdydd yn y rownd derfynol
Caerdydd 1(1)–0(1) Crystal Palace (C’dydd yn ennill ar G.O.S)
Mae Caerdydd ar y ffordd i Wembley ar ôl noson ddramatig yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno. Fe gurodd yr Adar Gleision Crystal Palace ar giciau o’r smotyn ar ôl ennill ail gymal rownd gynderfynol Cwpan y Cynghrair o gôl i ddim.
Roedd y tîm o Gymru gôl ar ei hôl hi ers y cymal cyntaf ym Mharc Selhurst bythefnos yn ôl ond dim ond saith munud gymerodd hi iddynt unioni pethau. Ond er i Gaerdydd reoli gweddill y gêm a’r amser ychwanegol ni ddaeth yr ail gôl holl bwysig felly doedd dim amdani ond ciciau o’r smotyn.
Hanner Cyntaf
Caerdydd a ddechreuodd y gêm orau ac roedd Craig Conway yn meddwl ei fod yn haeddu cic o’r smotyn pan ddisgynnodd yn y cwrt cosbi wedi pum munud ond doedd dim llawer ynddi a gwrthod ei rhoi hi a wnaeth y dyfarnwr, Howard Webb.
Ond doedd dim rhaid i gefnogwyr swnllyd yr Adar Gleision aros yn hir am y gôl agoriadol wrth i arwr Palace yn y cymal cyntaf, Anthony Gardner, sgorio i’w rwyd ei hun wedi saith munud. Gwnaeth Darcy Blake yn dda i ddod o hyd i Don Cowie ar ochr dde’r cwrt cosbi a chwipiodd yr Albanwr y bêl i’r cwrt chwech cyn i amddiffynnwr canol yr ymwelwyr benio i’w rwyd ei hun wrth y postyn agosaf.
Ar y blaen ar y noson ac yn gyfartal dros y ddau gymal roedd Caerdydd bellach ar dân a bu rhaid i gôl-geidwad Palace, Julian Speroni, wneud arbediad cadarn pan ergydiodd Peter Wittingham yn dda o 20 llath.
Yna, ar ôl rheoli’r gêm am bron i hanner awr dechreuodd ambell i bas gan chwaraewyr mewn crys glas fethu eu targed a daeth Crystal Palace yn ôl i’r gêm. Roedd Aron Gunnarsson braidd yn ffodus i beidio ildio cic o’r smotyn am dynnu crys yn y cwrt cosbi ond wnaeth yr ymwelwyr ddim bygwth gôl Caerdydd mewn gwirionedd.
Yn wir, y tîm cartref a oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o sgorio’r gôl nesaf. Ergydiodd Kenny Miller fodfeddi heibio’r postyn wedi 39 munud yn dilyn gwrthymosodiad chwim gan Conway a Gunnarsson ar y chwith.
A daeth yr ymosodwr yn agosach fyth yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner. Llwyddodd i droi ac ergydio ar ochr y cwrt cosbi ac er i’w ergyd guro Speroni, daeth y postyn i achub yr ymwelwyr o Lundain.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail gyfnod braidd yn fratiog cyn i Gaerdydd ddechrau rheoli drachefn. A daeth cyfle cyntaf yr hanner i’r tîm cartref wedi 57 munud. Roedd ymdrech wych Wittingham o gic rydd yn anelu’n syth i’r gornel uchaf cyn i Speroni arbed yn ardderchog.
Roedd cic rydd gan Wittingham yn achosi trafferthion i amddiffyn Crystal Palace eto ddau funud yn ddiweddarach. Daeth ei bas o hyd i Anthony Gerrard yn y cwrt cosbi ac er i’r amddiffynnwr wneud yn dda i benio’r bêl ar draws ceg y gôl doedd neb yno i fanteisio.
Gwastraffodd Wilfried Zaha gyfle prin i Palace gyda chwarter awr yn weddill cyn i’w capten gael ei anfon oddi ar y cae. Derbyniodd Patrick McCarthy ail gerdyn melyn am drosedd ar Miller wedi 77 munud ac roedd gan yr Adar Gleision chwarter awr i sgorio yn erbyn deg dyn.
Ond methu a gwneud hynny a wnaeth y tîm o Gymru wrth i’r gêm fynd i amser ychwanegol.
Amser Ychwanegol
Caerdydd oedd y tîm gorau o hyd a daeth cyfle cyntaf yr amser ychwanegol i Cowie ond ergydiodd dros y trawst yn dilyn llanast llwyr yng nghwrt cosbi Palace. Yna, daeth cyfle da i Filip Kiss ond peniodd yr eilydd dros y trawst o dair llath. A chafodd yr eilydd arall, Rudy Gestede, hanner cyfle eiliadau ar ôl dod i’r cae hefyd ond arbedodd Speroni ei ergyd.
Tarodd Caerdydd y trawst ddwywaith yn yr ail hanner. Ergydiodd Kiss yn erbyn y pren o ochr y cwrt cosbi ddeg munud o’r diwedd cyn i Gunnarsson daro’r trawst gyda pheniad rhydd yn yr eiliadau olaf. Caerdydd yn dod yn hynod agos felly ond doedd dim amdani ond ciciau o’r smotyn.
Ciciau o’r Smotyn
Roedd pethau yn edrych yn dywyll ar Gaerdydd wedi i Miller fethu’r gic gyntaf ond achubodd Tom Heaton y dydd gyda dau arbediad da i roi’r fantais i’r tîm cartref wedi dwy gic yr un. Arbedodd y gôl-geidwad gynnig Jermaine Easter i ddechrau cyn atal Sean Scannell.
Rhwydodd y ddau dîm eu ciciau nesaf cyn i Wittingham sgorio trydedd i Gaerdydd. Roedd rhaid i Jonathan Parr sgorio i gadw Palace yn y gêm felly ond ergydiodd yn wyllt dros y trawst a heibio i’r postyn gan anfon yr Adar Gleision i Wembley.
Yno, bydd tîm Malcy Mackay yn herio Lerpwl neu Manchester City ac yn gobeithio am well lwc y tro hwn ar ôl colli dwy rownd derfynol yn Llundain yn y pum mlynedd ddiwethaf.