Airbus 4-1 Bala
Mae gan Airbus gyfle da iawn i fynd trwodd i ail rownd Cwpan y Cynghrair yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus gartref yn erbyn y Bala yng nghymal cyntaf y rownd gyntaf. Sgoriodd Mark Cadwallader ddwywaith yn yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref ennill o 4-1 ar Y Maes Awyr nos Wener.
Roedd gôl-geidwad newydd y Bala, Mark Pullman, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb ond dim ond dau funud a barodd ei noson wrth iddo gael ei gario oddi ar y cae wedi ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad â blaenwr Airbus, Craig Whitfield.
Daeth Terry McCormick i’r cae yn ei le ond un o’r pethau cyntaf a wnaeth ef oedd ildio cic o’r smotyn a derbyn cerdyn coch. Tynnodd McCormick Eddie Hope i’r llawr a chael ei anfon oddi ar y cae wedi 12 munud. Rhaid oedd i’r ymwelwyr chwarae bron i 80 munud gyda deg dyn felly a’r chwaraewr canol cae, Mark Connolly yn y gôl.
Tasg gyntaf Connolly oedd codi’r bêl o gefn y rhwyd wedi i Mark Cadwallader lwyddo o 12 llath. Yna tarodd Lee Mason y postyn i ddeg dyn y Bala cyn i Mark Cadwallader guro Connolly am yr eildro funud cyn yr egwyl.
Peniodd y capten, Glen Rule, drydedd Airbus ar yr awr yn dilyn croesiad yr eilydd, Josh Roberts. Ac roedd hi’n bedair saith munud yn ddiweddarach wedi Gavin Cadwallader benio i gefn y rhwyd yn dilyn cic gornel Adam Worton.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Bala cyn yr ail gymal pan sgoriodd Mark Allen gôl i’w rwyd ei hun chwarter awr o’r diwedd. Ond Airbus fydd y ffefrynnau wythnos i nos Fawrth er gwaethaf camgymeriad Allen.
Caerfyrddin 1-0 Port Talbot
Bydd Caerfyrddin yn teithio i Bort Talbot ar gyfer yr ail gymal mewn wythnos a hanner gyda gôl o fantais yn dilyn buddugoliaeth fain ar Barc Waun Dew nos Wener.
Dim ond un gôl a gafwyd ond roedd hi’n gôl a oedd yn haeddu curo unrhyw gêm. Derbyniodd Jack Christopher y bêl gyda’i gefn at gôl 25 llath allan, rheolodd hi gyda’i gyffyrddiad cyntaf cyn troi a tharo foli berffaith i gornel uchaf y rhwyd gyda’i ail.
Cafodd yr ymwelwyr gyfle i unioni yn yr ail hanner wedi i David Brooks gael ei lorio yn y cwrt cosbi ond arbedodd Mike Lewis gic o’r smotyn Martin Rose.
Ond bydd gan Bort Talbot obaith yn yr ail gymal gan mai dim ond un gôl sydd ynddi diolch i arbediad hwyr Kristian Rogers o ergyd Nick Harryh.
Lido Afan 2-0 Aberystwyth
Roedd goliau hanner cyntaf Andy Hill a Mark Jones yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Lido Afan yn erbyn Aberystwyth yng ngêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn. Fe gafodd Aber gyfle hwyr i dynnu un gôl yn ôl yn Stadiwm Marstons ond methodd Ricky Evans o’r smotyn.
Prestatyn 1-1 Y Drenewydd
Un yr un oedd hi yn y cymal cyntaf rhwng Prestatyn a’r Drenewydd yng Ngerddi Bastion brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd John Fisher-Cooke y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Yna, tarodd y Drenewydd yn ôl toc wedi’r awr gyda gôl Callum Wright wrth iddi orffen yn gyfartal.
Mae’r ail gymal ym Mharc Latham mewn wythnos a hanner ac mae hi’n argoeli’n gêm gyffrous iawn gyda dim i wahanu’r ddau dîm ar hyn o bryd.