Wrecsam 4–1 Kettering
Mae Wrecsam yn parhau ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Kettering heddiw. Mae’n rhaid fod tîm Andy Morrell wedi blino yn dilyn eu perfformiad arwrol yn y Cwpan FA ganol wythnos ond wnaethon nhw ddim dangos hynny wrth rwydo pedair ar y Cae Ras heddiw.
Dim ond pum munud a oedd ar y cloc pan enillodd Glen Little gic rydd i’r tîm cartref mewn safle addawol. Cymerodd yr ymosodwr y gic ei hun gan ddod o hyd i gefn y rhwyd diolch i wyriad sylweddol oddi ar ei reolwr, Andy Morrell.
Ychydig o gyfleoedd a gafwyd wedi hynny yn yr hanner cyntaf ond roedd y Dreigiau ym mhellach ar y blaen wedi dim ond wyth munud o’r ail hanner. Daeth Dean Keates o hyd i Mark Creighton yn y cwrt cosbi a rhwydodd yntau heibio i Laurie Walker yn y gôl i Kettering.
Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr wedi 66 munud pan welodd Jean-Paul Marna ei ail gerdyn melyn. Ond roedd Kettering yn gyfartal cyn i Marna gyrraedd y gawod, Sol Davis yn croesi a Djoumin Sangare yn sgorio gyda foli i roi gobaith i’w dîm wedi 67 munud.
Adferwyd dwy gôl o fantais y Dreigiau ddeg munud yn ddiweddarach pan ddaeth Morrell o hyd i’r eilydd, James Colbeck, yn y cwrt cosbi cyn i hwnnw sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb.
Ac roedd Colbeck wrthi eto yn yr amser a ganiateir am anafiadau. Ond roedd hon yn gôl dipyn anoddach i’r eilydd wrth iddo guro Walker o ochr y cwrt cosbi ar ôl derbyn y bêl gan Johnny Hunt.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Wrecsam ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ddau bwynt o flaen Fleetwood a gurodd Darlington heddiw.