Caerdydd 3–2 Portsmouth

Sicrhaodd gôl Craig Conway yn yr amser a ganiateir am anafiadau y tri phwynt i’r Adar Gleision yn erbyn Portsmouth yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw. Roedd y tîm o’r brifddinas yn colli hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i Mark Hudson unioni’r sgôr, a sicrhaodd Conway’r fuddugoliaeth mewn steil yn yr eiliadau olaf.

Dechreuodd Caerdydd yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond chwarter awr diolch i gôl Kenny Miller. Croesodd Peter Wittingham y bêl i’r Albanwr ac anelodd yntau hi heibio i Stephen Henderson yn gôl Portsmouth o ongl dynn.

Ond roedd hi’n gyfartal chwe munud cyn yr egwyl wedi gôl Marko Futcas i’r ymwelwyr. Gollyngodd gôl-geidwad Caerdydd, David Marshall, y bêl yn y cwrt cosbi ac roedd Futcas wrth law i rwydo.

Ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner pan sgoriodd yr amddiffynnwr, Greg Halford, o gic gornel Liam Lawrence.

Roedd yr Adar Gleision mewn perygl o golli yn y gynghrair am y tro cyntaf mewn pum gêm ond roeddynt yn gyfartal gydag 20 munud yn weddill wedi i Hudson benio i gefn y rhwyd yn dilyn croesiad Conway.

Cafodd Don Cowie hanner cyfle i ennill y gêm i’r tîm cartref bum munud o’r diwedd ond arbedodd Henderson ei gynnig.

Yn hytrach, bu rhaid aros tan yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar gyfer y gôl fuddugol a thipyn o gôl oedd hi hefyd, ergyd wych gan Conway o 30 llath a mwy.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn y trydydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth ac yn cadw’r pwysau ar West Ham a Southampton ar y brig. Gall yr Adar Gleision droi eu golygon at y gêm bwysig yn y gwpan yn erbyn Crystal Palace yn hyderus yn awr yn dilyn y canlyniad da yma heddiw.