Sunderland 2–0 Abertawe

Cymerodd Abertawe gam bach yn ôl yn yr Uwch Gynghrair heddiw yn dilyn eu buddugoliaeth wych yn erbyn Arsenal benwythnos diwethaf. Collodd yr Elyrch oddi cartref yn y Stadium of Light yn erbyn Sunderland er gwaethaf rheoli’r meddiant unwaith eto.

Dim ond pum munud a oedd ar y cloc pan gafodd Sebastian Larsson gyfle cyntaf y tîm cartref gydag ergyd yn y cwrt chwech ond gwnaeth Michel Vorm yn dda i wyro’r ymdrech yn erbyn y postyn.

Ond doedd gan Vorm ddim gobaith ddeg munud yn ddiweddarach pan agorodd Stephane Sessegnon y sgorio gydag ergyd wych i gornel uchaf y rhwyd o ochr chwith y cwrt cosbi. Cafwyd cyd chware da rhyngddo ef a James McClean ar yr asgell chwith cyn iddo grymanu’r bêl yn gelfydd heibio i Vorm, 1-0 i dîm Martin O’Neill wedi 14 munud.

Yna yn dilyn dechrau da Sunderland dechreuodd yr Elyrch reoli’r meddiant gyda’i gêm basio nodweddiadol a chawsant gyfleoedd i unioni pethau cyn yr egwyl. Roedd Scott Sinclair eisoes wedi gwastraffu cyfle da o chwe llath yn dilyn croesiad cywir Nathan Dyer pan beniodd Danny Graham dros y trawst ar ôl croesiad Gylfi Sigurdsson.

Abertawe oedd y tîm gorau o hyd ar ddechrau’r ail hanner a daeth Sigurdsson yn agos at sgorio toc cyn yr awr. Roedd y chwaraewr o Wlad yr Iâ yn creu argraff wrth iddo ddechrau gêm i’r Elyrch am y tro cyntaf ond gwnaeth gôl-geidwad Sunderland, Simon Mignolet, yn dda i arbed ei gic rydd wedi 57 munud.

Ond er gwaethaf eu goruchafiaeth, ychydig a greodd y tîm o Gymru o flaen gôl mewn gwirionedd a bu rhaid iddynt dalu’r pris wrth i Sunderland sicrhau’r fuddugoliaeth yn y chwarter awr olaf.

Methodd Sessegnon gyfle da i sgorio’i ail â’i ben wedi 74 munud a methodd Connor Wickham gyfle euraidd i sgorio ail Sunderland ddeg munud o’r diwedd. Ond gwnaeth Craig Gardner hynny gydag ergyd wych bum munud yn ddiweddarach. Derbyniodd yr eilydd y bêl gan Sessegnon gan ei rheoli’n daclus cyn taro foli berffaith i gornel uchaf y rhwyd o 25 llath.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn disgyn yn ôl i hanner isaf tabl yr Uwch Gynghrair. Maent bellach yn y trydydd safle ar ddeg wrth i Fulham ac Aston Villa yn ogystal â Sunderland esgyn uwch eu penau.