Y Stadiwm Newydd (Llun: Dave Hayes, bangorcitizens.com)
Mae Clwb Dinas Bangor wedi cyhoeddi’r prynhawn yma eu bod nhw bellach wedi meddiannu eu stadiwm newydd yn Nantporth.

Cafodd y goriadau i’r stadiwm newydd yn rhoi yn nwylo’r clwb ddydd Gwener a bydd yr olaf o’r gwaith cyfreithiol wedi ei gwblhau o fewn dyddiau, medden nhw.

“Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi symudi Nantporth a dechrau ar gyfnod newydd cyffrous yn natblygiad Clwb Pêl-droed Dinas Bangor,” meddai’r cadeirydd, Dilwyn Jones.

“Mae wedi bod yn amser hir ac wedi golygu llawer iawn o waith gan lawer iawn o bobol, ond rydyn ni yma o’r diwedd.

“Y gobaith yw y bydd hyn yn gam ymlaen ac yn golygu rhagor o lwyddiant i’r clwb.”

Bydd gêm gyntaf Bangor yn y clwb newydd yn erbyn Caernarfon Wanderers yng Nghwpan Arfordir Gogledd Cymru ddydd Mawrth, am 7.30pm.

Bydd y gêm gyntaf yn Uwchgynghrair Cymru yn Nantporth ddydd Sadwrn, 4 Chwefror, am 3.45pm yn erbyn Tref Prestatyn.