Caerfyrddin 0–1 Y Seintiau Newydd
Roedd gôl gynnar Alex Darlington yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Seintiau yn erbyn Caerfyrddin o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Gêm ddigon diflas oedd hi ar brynhawn gwlyb yn y de orllewin ond fydd y Seintiau ddim yn cwyno wrth iddynt ddychwelyd adref gyda’r tri phwynt.
Aeron Edwards a gafodd gyfle cyntaf yr ymwelwyr wedi pum munud o chwarae ond peniodd y chwaraewr canol cae dros y trawst. Ond ni fu rhaid i’r Seintiau aros yn hir cyn mynd ar y blaen wrth i Darlington rwydo wedi dim ond chwe munud o chwarae.
Y Gôl
Roedd croesiad Simon Spender o’r asgell dde yn edrych yn ddigon diniwed ond wnaeth gôl-geidwad ifanc Caerfyrddin, Rhys Wilson ddim argyhoeddi o gwbl yn y cwrt cosbi a chafodd Darlington gyfle ar blât yn y cwrt chwech a sgoriodd yn rhwydd.
Daeth cyfle i Greg Draper ddyblu mantais y Seintiau toc wedi chwarter awr ond adlamodd y bêl oddi ar ben glin y blaenwr ag yntau mewn digonedd o le yn y cwrt cosbi.
Llwyr reolodd y Seintiau weddill yr hanner ond heb greu gormodedd o gyfleoedd da. Crymanodd Edwards ergyd gelfydd i gyfeiriad y gornel uchaf wedi 24 munud ond tarodd ei ergyd yn erbyn y postyn. Yna, amserodd Cledan Davies ei dacl yn berffaith er mwyn atal cyfle da i Craig Jones.
Dim llawer o gyfleoedd i’r ymwelwyr felly ond y Seintiau yn llawn haeddu eu gôl o fantais.
Caerfyrddin yn Gwella
Dechreuodd Caerfyrddin yr ail hanner yn llawer gwell a chafodd Steffan Williams gyfle da yn yr eiliadau cyntaf wedi’r egwyl. Gwnaeth yr asgellwr waith da ar y chwith er mwyn creu’r cyfle iddo’i hun cyn ergydio ym mhell dros y trawst.
Daeth cyfle da arall i’r tîm cartref wedi’r awr. Creodd Nick Harrhy le iddo’i hun yn y cwrt cosbi ond daeth gôl-geidwad y Seintiau, Paul Harrison allan yn gyflym i’w atal.
Wnaeth y Seintiau ddim creu fawr o ddim yn yr ail hanner a’r unig chwaraewr a oedd yn edrych yn fywiog wrth ymosod iddynt oedd Craig Jones. Cafwyd rhediad pwrpasol ganddo wedi 77 munud cyn i’w ergyd nerthol gael ei hatal gan amddiffynnwr. Yna, creodd gyfle da iddo’i hun yn y cwrt cosbi dri munudyn ddiweddarach ond arbedodd Rhys Wilson yn dda.
Ymateb
Er gwaethaf y canlyniad roedd rheolwr newydd Caerfyrddin, Neil Smothers yn hapus iawn ag ymdrech ei dîm yn enwedig yn yr ail hanner:
“Fe ddywedais i wrthyn nhw cyn y gêm fy mod i eisiau gweld gwellhad o wythnos i wythnos ac ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n wych heddiw. Mae’r bechgyn wedi rhoi eu gorau glas a ro’n i’n meddwl mai ni oedd y tîm gorau yn yr ail hanner, ymdrech wych.”
Ac er na chafodd Caerfyrddin unrhyw bwyntiau o’r gêm roedd y rheolwr yn teimlo y bydd ei dîm yn elwa o’r perfformiad:
“Mae perfformiad fel yna yn erbyn tîm mor dda yn sicr yn mynd i roi hyder i ni.”
Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl Mae’r Seintiau yn aros yn y trydydd safle gan i Fangor a Llanelli guro dros y penwythnos hefyd tra mae Caerfyrddin yn aros ar waelod y tabl.