Casnewydd 0–1 Fleetwood

Colli fu hanes Casnewydd ar Barc Sbyty brynhawn Sadwrn er iddynt roi gêm dda i’r tîm sydd yn ail yn y gyngres, Fleetwood.

Efallai bod 16 safle yn gwahanu’r ddau dîm yn y tabl ond Casnewydd oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf a bu bron iddynt fynd ar y blaen ychydig funudau cyn yr egwyl pan beniodd Craig McAllister heibio i’r postyn yn dilyn croesiad Danny Rose.

Methodd McAllister gydag ymdrech arall â’i ben ar ddechrau’r ail hanner cyn i gôl-geidwad Fleetwood, Scott Davies arbed ergyd Garry Warren hanner ffordd trwy’r ail gyfnod.

Yna, gyda chwarter awr yn weddill sgoriodd Fleetwood unig gôl y gêm. Daeth Gareth Seddon o hyd i Peter Cavanagh yn y cwrt cosbi a saethodd yntau heibio i Danny Potter yn y gôl i Gasnewydd.

Cafodd Casnewydd bum munud yn chwarae yn erbyn deg dyn ar ddiwedd y gêm wedi i’r dyfarnwr anfon Keiran Charnock o’r cae yn dilyn trosedd ar Andrew Hughes, ond daliodd Fleetwood eu gafael ar y tri phwynt.

Mae Casnewydd yn aros yn y pedwerydd safle ar bymtheg er gwaethaf y canlyniad ond dim ond pwynt sydd yn eu gwahanu hwy a safleoedd y gwymp bellach wedi i’r pum tîm oddi tanynt gael gemau cyfartal heddiw. Mae Fleetwood ar y llaw arall yn aros yn yr ail safle diolch i’r fuddugoliaeth, dri phwynt yn unig y tu ôl i Wrecsam ar y brig.