Wright - Sgoriwr y gôl fuddugol
Wrecsam 2–1 Gateshead

Mae Wrecsam yn parhau ar frig y gyngres yn dilyn buddugoliaeth arall ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn. Gateshead oedd y gwrthwynebwyr diweddaraf i ddychwelyd adref yn waglaw o ogledd Cymru yn dilyn buddugoliaeth o 2-1 i dîm Andy Morrell.

Cafodd y Dreigiau’r dechrau perffaith diolch i gôl agoriadol  Mathias Pogba wedi dim ond tri munud. Anelodd y blaenwr yn gywir i gornel isaf y rhwyd er mwyn rhoi mantais gynnar i’w dîm.

Methodd Danny Wright gyfle gwych y ddyblu’r fantais honno wedi saith munud pan ergydiodd yn syth at Tim Deasy yn y gôl i Gateshead.

A bu rhaid i Wrecsam dalu am fethu’r cyfle hwnnw hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wrth i’r ymwelwyr unioni’r sgôr. Daeth croesiad Ben Clark o hyd i Micky Cummings yn y canol a pheniodd yntau i gefn y rhwyd.

Ond roedd y Dreigiau yn ôl ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl diolch i gôl Wright. Cyfunodd Jake Speight a Curtis Obeng yn dda er mwyn creu’r cyfle i’r ymosodwr a wnaeth yntau ddim camgymeriad y tro hwn.

Er i Wrecsam gael un neu ddau hanner cyfle i sgorio’r drydedd yn yr ail hanner Gateshead oedd y tîm gorau. Gadawodd y Dreigiau i’r ymwelwyr reoli’r meddiant ond daliodd yr amddiffyn yn ddewr er mwyn sicrhau tri phwynt arall.

Mae’r fuddugoliaeth yn eu cadw dri phwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair Blue Square ond dylid cofio bod Fleetwood sydd yn yr ail safle wedi chwarae un gêm yn llai.