Caerdydd 2–3 Middlesbrough

Mae rhediad gwych Caerdydd yn y Bencampwriaeth drosodd wedi iddynt golli yn erbyn Middlesbrough yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn. Doedd yr Adar Gleision heb golli ers deg gêm gynghrair cyn y gic gyntaf heddiw ond daeth y rhediad hwnnw i ben wrth i’r ymwelwyr o ogledd ddwyrain Lloegr ennill mewn gêm lawn goliau.

Daeth y gyntaf o’r goliau hynny wedi chwarter awr o chwarae. Ergydiodd Bart Ogbeche yn galed ac yn gywir o 20 llath heibio i David Marshall yn y gôl i Gaerdydd.

Roedd Malcy Macay yn hynod siomedig na chafodd ei dîm gic o’r smotyn ychydig funudau cyn y gôl agoriadol honno gan i Kevin McNaughton gael ei lorio yn y blwch cosbi gan gôl-geidwad yr ymwelwyr, Jason Steele. Ond unionodd y tîm cartref hanner ffordd trwy’r hanner pryn bynnag; Kenny Miller yn penio cic gornel Peter Wittingham ymlaen a’r amddiffynnwr, Ben Turner yn rhwydo â’i ben yn y cwrt chwech.

Ac roedd y tîm o Gymru ar y blaen toc cyn yr egwyl diolch i Aron Gunnarsson. Roedd y chwaraewr o Wlad yr Iâ yn ôl yn y tîm heddiw ar ôl bod yn dioddef ag anaf i’w goes ac roedd cefnogwyr yr Adar Gleision yn falch o’i weld yn enwedig felly wrth iddo sgorio ail Caerdydd funud cyn yr egwyl yn dilyn sodliad celfydd Miller.

Roedd pethau’n argoeli’n dda ar yr egwyl felly ond bu rhaid i’r tîm o’r Brifddinas dalu’n ddrud am amddiffyn gwan yn yr ail gyfnod wrth i Middlesbrough daro’n ôl.

Unionodd Scott McDonald y sgôr ar yr awr yn dilyn pas Justin Hoyte ar draws y cwrt chwech cyn i Faris Haroun gipio’r tri phwynt i’r ymwelwyr gyda chwarter awr yn weddill. Croesodd Julio Arca tuag at y postyn pellaf ac oedodd amddiffynnwyr Caerdydd a Marshall yn y gôl gan roi rhwydd hynt i Haroun reoli’r bêl ar ei frest cyn ei saethu i gefn y rhwyd.

Cafodd Joe Mason gyfle da i unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm ond gwyrodd ei ergyd yn erbyn amddiffynnwr ac allan am gic gornel. Siom i’r Adar Gleision felly wrth i’w rhediad da ddod i ben.

Siom hefyd yw sylwi bod Caerdydd yn disgyn i’r pumed safle yn y tabl o ganlyniad i’r golled gan i Hull ennill gartref yn erbyn Millwall heddiw.