Newcastle 0–0 Abertawe
Bydd Abertawe yn dychwelyd o Newcastle heno gyda phwynt yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn y Sports Direct Arena (Parc St. James’s) brynhawn Sadwrn. Y tîm cartref a reolodd y mwyafrif o’r gêm a bu rhaid i’r Elyrch ddibynnu ar eu gôl-geidwad, Michel Vorm unwaith eto er mwyn cipio pwynt.
Roedd Newcastle yn hynod anlwcus i beidio ag agor y sgorio yn chwarter cyntaf y gêm wrth i’r postyn ddod i’r adwy i Abertawe ar ddau achlysur. Tarodd peniad Fabricio Coloccini y pren wedi 19 munud cyn i ergyd Demba Ba wneud yr un peth bum munud yn ddiweddarach.
Cafodd Ba gyfle arall yn hwyr yn yr hanner a tharodd y targed y tro hwn ond arbedodd Vorm ymdrech y blaenwr.
Yna, cafodd Ba gyfle da yn gynnar iawn yn yr ail hanner hefyd ond saethodd dros y trawst pan ddylai fod wedi taro’r targed. Roedd Ba wrthi eto toc wedi’r awr ond arbedodd Vorm ei ergyd unwaith yn rhagor.
Arbedodd Vorm ergyd Shola Ameobi wedi 72 munud cyn atal Ba unwaith yn rhagor ychydig funudau yn ddiweddarach.
Ni lwyddodd Abertawe i gael ergyd ar y targed trwy gydol y 90 munud ond er mai Newcastle a gafodd y mwyafrif o’r cyfleoedd roedd yr Elyrch yn haeddu pwynt am eu hymdrechion.
Ond maent yn disgyn un lle i’r deuddegfed safle er gwaethaf y pwynt hwnnw gan i Fulham guro gartref yn erbyn Bolton. Hon oedd wythfed llechen lân yr Elyrch y tymor hwn sydd yn fwy na’r un tîm arall yn y gynghrair a bydd Brendan Rodgers yn gobeithio am un arall yn ogystal â gôl neu ddwy yn erbyn Everton ym Mharc Goodison nos Fercher.