Miller - Sgoriwr unig gôl y gêm
Caerdydd 1–0 Birmingham

Mae rhediad da Caerdydd yn parhau ar ôl buddugoliaeth arall yn y Bencampwriaeth yn erbyn Birmingham yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw. Roedd gôl Kenny Miller hanner ffordd trwy’r ail hanner yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt yn erbyn deg dyn Birmingham.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd cynnar i agor y sgorio. Peniodd Miller dros y trawst yn y pedwerydd munud cyn i flaenwr yr ymwelwyr, Nikola Zigic fethu cyfle â’i ben yn y pen arall bum munud yn ddiweddarach.

Ond Peter Wittingham a ddaeth agosaf at sgorio mewn hanner cyntaf di sgôr gydag ergyd dda o 20 llath toc wedi hanner awr o chwarae. Ond yn anffodus i gefnogwyr y tîm o’r Brifddinas gwnaeth gôl-geidwad Birmingham a Chymru, Boaz Myhill arbediad gwych.

Derbyniodd amddiffynnwr Birmingham, Curtis Davies gerdyn melyn yn gynnar yn yr ail hanner yn dilyn trosedd ar Aron Gunnarsson. Ac roedd yr ymwelwyr lawr i ddeg dyn yn fuan wedi’r awr wedi i Davies dderbyn ei ail gerdyn melyn am drosedd ar Miller.

Tarodd Wittingham y postyn gyda’r gic rydd ganlynol ond wnaeth hi ddim cymryd llawer o amser i Gaerdydd gymryd mantais, Miller, yr ymosodwr bach yn rhwydo wedi 68 munud yn dilyn croesiad Craig Conway.

Ac felly yr arhosodd hi wrth i Gaerdydd sicrhau tri phwynt arall. Mae’r canlyniad yn codi’r Adar Gleision yn ôl i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth ar ôl disgyn i’r pedwerydd safle am 24 awr yn dilyn buddugoliaeth Middlesbrough ddoe.