Mae amheuon a fydd chwaraewr canol cae Caerdydd yn holliach i wynebu Birmingham ddydd Sul. Bydd Filip Kiss yn cael prawf ffitrwydd hwyr oherwydd anaf i’w bigwrn.
Fe gollodd y chwaraewr 21 oed y gêm y penwythnos diwethaf yn erbyn Nottingham Forest oherwydd yr anaf i’w bigwrn, ond fe chwaraeodd nos Fawrth wrth i Gaerdydd gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn Blackburn yn rownd wyth olaf Cwpan Carling.
Fe sgoriodd Kiss yr ail gôl i Gaerdydd yn erbyn Blackburn.
Os caiff ei adael allan, fe fydd cyfle i’r Gwyddel Stephen McPhail ddychwelyd i’r tîm.
Yn ogystal, mae ffitrwydd capten y Gleision Mark Hudson yn cael ei asesu.
Mae’r chwaraewr 29 oed wedi bod yn absennol o’r dair gêm diwethaf gydag anaf i linyn y gâr. Fe ailddechreuodd ymarfer yn gynharach yr wythnos hon, ond ni chafodd chwarae yn erbyn Blackburn.
Mae yna bryderon am ruthro’r chwaraewr yn ôl yn gynnar, oherwydd gallai hyn arwain at rwygo’i linyn y gâr gan olygu mwy o amser oddi ar y cae.
Yn y cyfamser, mae’r ymosodwr Rudy Gestede yn gwella’n sylweddol o’r anaf i’w linyn y gâr yntau.
Mae hyfforddwr Caerdydd Malky Mackay yn disgwyl i Gestede ddychwelyd i’r Adar Gleision yn erbyn Millwall a’r y 10fed o Ragfyr.